Hen Destament

Testament Newydd

Job 29:13-25 beibl.net 2015 (BNET)

13. Roedd pobl oedd bron wedi marw yn fy mendithio,ac roeddwn i'n gwneud i'r weddw ganu'n llawen.

14. Roedd cyfiawnder fel gwisg amdana i,a thegwch fel mantell a thwrban.

15. Ro'n i'n llygaid i'r dallac yn draed i'r cloff.

16. Ro'n i'n dad i'r rhai mewn angen,ac yn gwrando ar achos y rhai dieithr.

17. Ro'n i'n dryllio dannedd y dyn drwg,ac yn gwneud iddo ollwng ei ysglyfaeth.

18. Dyma roeddwn i'n ei dybio:‘Bydda i'n aros gyda'm teulu nes i mi farw,ac yn cael byw am flynyddoedd lawer.

19. Bydda i fel coeden a'i gwreiddiau'n cyrraedd y dŵr,a'r gwlith yn aros ar ei changhennau.

20. Bydd fy nerth yn cael ei adnewyddu,a'm bwa yn newydd yn fy llaw.’

21. Roedd pobl yn gwrando'n astud arna i,ac yn cadw'n dawel wrth i mi roi cyngor.

22. Ar ôl i mi siarad doedd gan neb ddim mwy i'w ddweud –roedd fy ngeiriau yn disgyn yn dyner ar eu clustiau.

23. Roedd disgwyl i mi siarad fel disgwyl am law,disgwyl yn frwd am y glaw yn y gwanwyn.

24. Pan fyddwn i'n gwenu, bydden nhw wrth eu boddau;doedden nhw ddim eisiau fy nigio i.

25. Fi oedd yn dangos y ffordd, fi oedd yn ben;ron i fel brenin yng nghanol ei filwyr;ron i'n cysuro'r rhai sy'n galaru.

Darllenwch bennod gyflawn Job 29