Hen Destament

Testament Newydd

Job 28:8-22 beibl.net 2015 (BNET)

8. Fu anifeiliaid rheibus ddim yn troedio yno;does dim llew wedi pasio heibio.

9. Mae chwarelwyr yn taro'r graig galed,ac yn symud sylfeini'r mynyddoedd.

10. Maen nhw'n agor siafftiau yn y creigiau,ac yn edrych am bethau gwerthfawr.

11. Maen nhw'n archwilio ble mae afonydd yn tarddua dod â'r hyn oedd o'r golwg i'r golau.

12. Ond ble mae dod o hyd i ddoethineb?Ble mae deall i'w gael?

13. Does neb yn gwybod ble mae;dydy e ddim i'w gael ar dir y byw.

14. Mae'r dyfnder yn dweud, ‘Dydy e ddim yma,’a'r môr yn dweud, ‘Dydy e ddim gen i.’

15. Does dim modd ei brynu gyda bar o aur,na thalu amdano drwy bwyso arian.

16. Ellir ddim ei brynu gydag aur Offir,nac onics gwerthfawr, na saffir chwaith.

17. Dydy aur na grisial ddim cystal,ac ni ellir ffeirio llestri o aur pur amdano.

18. Dydy cwrel a grisial ddim gwerth sôn amdanyn nhw;mae pris doethineb yn uwch na pherlau.

19. Dydy topas Affrica yn werth dim o'i gymharu,a dydy aur pur ddim yn ddigon i'w brynu.

20. O ble mae doethineb yn dod?Ym mhle mae deall i'w gael?

21. Mae wedi ei guddio oddi wrth bopeth byw,hyd yn oed yr adar yn yr awyr.

22. Mae Abadon a Marwolaeth yn dweud,‘Dŷn ni ond wedi clywed rhyw si amdano.’

Darllenwch bennod gyflawn Job 28