Hen Destament

Testament Newydd

Job 28:1-18 beibl.net 2015 (BNET)

1. Mae cloddfa i arian,a lle i aur gael ei buro.

2. Mae haearn yn cael ei dynnu o'r ddaear,a chopr yn cael ei doddi o'r garreg.

3. Mae dynion yn mynd â golau i'r tywyllwch,ac yn chwilio ym mhob cilfacham y mwynau sy'n y tywyllwch dudew.

4. Maen nhw'n agor siafft ymhell oddi wrth bawb,mewn lleoedd nad oes neb wedi cerdded,ac yn siglo wrth hongian ymhell o olwg pobl.

5. Ar y ddaear mae bwyd yn tyfu,ond islaw mae tân yn ei thoddi.

6. Mae saffir i'w gael yn y cerrig,ac aur yn ei llwch hefyd.

7. All aderyn rheibus ddim mynd ato;all llygad barcud ddim gweld y llwybr yno.

8. Fu anifeiliaid rheibus ddim yn troedio yno;does dim llew wedi pasio heibio.

9. Mae chwarelwyr yn taro'r graig galed,ac yn symud sylfeini'r mynyddoedd.

10. Maen nhw'n agor siafftiau yn y creigiau,ac yn edrych am bethau gwerthfawr.

11. Maen nhw'n archwilio ble mae afonydd yn tarddua dod â'r hyn oedd o'r golwg i'r golau.

12. Ond ble mae dod o hyd i ddoethineb?Ble mae deall i'w gael?

13. Does neb yn gwybod ble mae;dydy e ddim i'w gael ar dir y byw.

14. Mae'r dyfnder yn dweud, ‘Dydy e ddim yma,’a'r môr yn dweud, ‘Dydy e ddim gen i.’

15. Does dim modd ei brynu gyda bar o aur,na thalu amdano drwy bwyso arian.

16. Ellir ddim ei brynu gydag aur Offir,nac onics gwerthfawr, na saffir chwaith.

17. Dydy aur na grisial ddim cystal,ac ni ellir ffeirio llestri o aur pur amdano.

18. Dydy cwrel a grisial ddim gwerth sôn amdanyn nhw;mae pris doethineb yn uwch na pherlau.

Darllenwch bennod gyflawn Job 28