Hen Destament

Testament Newydd

Job 26:1-14 beibl.net 2015 (BNET)

1. A dyma Job yn ateb:

2. “O, ti'n gymaint o help i'r gwan!Ti wedi cynnal braich yr un sydd heb nerth!

3. Mae dy gyngor mor werthfawr i rywun sydd mor ddwl!Ti wedi bod mor hael yn rhannu dy ddoethineb!

4. Pwy wnaeth ddysgu hyn i gyd i ti?Pwy sy'n dy ysbrydoli i siarad fel yma?

5. Mae'r meirw yn crynu o flaen Duw –pawb sy'n byw yn y byd dan y dŵr.

6. Mae Annwn yn noeth o'i flaen,ac Abadon heb orchudd i'w guddio.

7. Duw sy'n lledu'r sêr dros yr anhrefn,ac yn hongian y ddaear uwch y gwagle.

8. Mae'n rhwymo'r dŵr yn ei gymylau trwchus,ond does yr un yn byrstio dan y pwysau.

9. Mae'n cuddio wyneb y lleuad llawndrwy ledu ei gymylau drosto.

10. Mae'n marcio'r gorwel ar wyneb y moroedd,fel terfyn rhwng y golau a'r tywyllwch.

11. Mae colofnau'r nefoedd yn crynu,wedi eu dychryn gan ei gerydd.

12. Mae'n gallu tawelu'r môr;trawodd fwystfil y môr i lawr drwy ei ddoethineb.

13. Mae ei wynt yn clirio'r awyr;trywanodd y sarff wibiog â'i law.

14. A dydy hyn prin yn cyffwrdd ei allu! –mae fel rhyw sibrydiad bach tawel.Pwy all ddychmygu holl rym ei nerth?”

Darllenwch bennod gyflawn Job 26