4. Maen nhw'n gwthio'r anghenus o'r ffordd,ac mae pobl dlawd yn gorfod mynd i guddio.
5. Fel asynnod gwyllt yn yr anialwch,mae'r tlodion yn mynd allan i weithio,ac yn chwilio am fwyd ar dir diffaith –bwyd iddyn nhw a'u plant.
6. Maen nhw'n casglu cnwd ebran o gaeau pobl eraill,a lloffa grawnwin o winllannoedd pobl ddrwg.
7. Maen nhw'n treulio'r nos yn noeth a heb ddillad,heb orchudd i'w hamddiffyn rhag yr oerni.
8. Maen nhw'n wlyb domen yn y glaw trwm,ac yn swatio gyda'i gilydd dan loches y graig.
9. Mae plentyn y weddw'n cael ei gipio o'r fron,a babanod y tlawd yn cael eu cymryd am ddyled.
10. Maen nhw'n crwydro o gwmpas yn noeth, heb ddillad,ac yn llwgu wrth gario ysgubau pobl eraill.
11. Maen nhw'n gwasgu'r olewydd rhwng y meini,ac yn sathru'r grawnwin i'r cafnau, ond yn sychedig.
12. Mae pobl yn griddfan marw yn y ddinas;a dynion wedi eu hanafu yn gweiddi am help;ond dydy Duw'n cyhuddo neb am wneud y drwg.
13. Mae rhai pobl yn gwrthod y golau;dŷn nhw ddim yn gwybod am ei ffyrddnac yn aros ar ei lwybrau.
14. Mae'r llofrudd yn codi cyn iddi wawrioi ladd y tlawd a'r anghenus;mae e fel y lleidr yn y nos.
15. Mae'r un sy'n godinebu yn disgwyl iddi dywyllu;mae'n gwisgo mwgwd ar ei wyneb,gan feddwl, ‘Fydd neb yn fy nabod i.’
16. Mae lladron yn torri i mewn i dai pobl yn y nos,ond yn cuddio o'r golwg drwy'r dydd –dŷn nhw ddim eisiau gwybod am y golau.
17. Maen nhw i gyd yn gweld y bore fel tywyllwch;dyna pryd mae ofn yn gafael ynddyn nhw.
18. Mae rhywun felly fel ewyn ar wyneb y dŵr.Boed i'w dir e gael ei felltithio;boed i neb alw heibio i'w winllannoedd!