3. Maen nhw'n dwyn asynnod yr amddifad,ac yn cadw ychen y weddw sydd mewn dyled.
4. Maen nhw'n gwthio'r anghenus o'r ffordd,ac mae pobl dlawd yn gorfod mynd i guddio.
5. Fel asynnod gwyllt yn yr anialwch,mae'r tlodion yn mynd allan i weithio,ac yn chwilio am fwyd ar dir diffaith –bwyd iddyn nhw a'u plant.
6. Maen nhw'n casglu cnwd ebran o gaeau pobl eraill,a lloffa grawnwin o winllannoedd pobl ddrwg.