Hen Destament

Testament Newydd

Job 24:10-25 beibl.net 2015 (BNET)

10. Maen nhw'n crwydro o gwmpas yn noeth, heb ddillad,ac yn llwgu wrth gario ysgubau pobl eraill.

11. Maen nhw'n gwasgu'r olewydd rhwng y meini,ac yn sathru'r grawnwin i'r cafnau, ond yn sychedig.

12. Mae pobl yn griddfan marw yn y ddinas;a dynion wedi eu hanafu yn gweiddi am help;ond dydy Duw'n cyhuddo neb am wneud y drwg.

13. Mae rhai pobl yn gwrthod y golau;dŷn nhw ddim yn gwybod am ei ffyrddnac yn aros ar ei lwybrau.

14. Mae'r llofrudd yn codi cyn iddi wawrioi ladd y tlawd a'r anghenus;mae e fel y lleidr yn y nos.

15. Mae'r un sy'n godinebu yn disgwyl iddi dywyllu;mae'n gwisgo mwgwd ar ei wyneb,gan feddwl, ‘Fydd neb yn fy nabod i.’

16. Mae lladron yn torri i mewn i dai pobl yn y nos,ond yn cuddio o'r golwg drwy'r dydd –dŷn nhw ddim eisiau gwybod am y golau.

17. Maen nhw i gyd yn gweld y bore fel tywyllwch;dyna pryd mae ofn yn gafael ynddyn nhw.

18. Mae rhywun felly fel ewyn ar wyneb y dŵr.Boed i'w dir e gael ei felltithio;boed i neb alw heibio i'w winllannoedd!

19. Fel sychder a gwres yn gwneud i ddŵr eira ddiflannu,mae'r bedd yn cipio'r rhai sydd wedi pechu.

20. Mae'r groth yn ei anghofio,a'r cynrhon yn gwledda arno;a fydd neb yn ei gofio eto;bydd y drwg yn cael ei dorri i lawr fel coeden.

21. Maen nhw'n manteisio ar wraig ddi-blant,ac yn cam-drin y weddw.

22. Ond mae Duw'n gallu cael gwared â'r rhai pwerus,pan mae e'n codi, all neb fod yn siŵr y caiff fyw.

23. Mae'n gadael iddyn nhw gredu eu bod yn saff,ond yn cadw golwg ar beth maen nhw'n ei wneud.

24. Maen nhw'n bwysig am ychydig, ond yna'n diflannu;maen nhw'n syrthio ac yn crino fel glaswellt,ac yn gwywo fel pen y dywysen.

25. Os nad ydy hyn yn wir, pwy sydd am wrthbrofi'r petha dangos fy mod i'n siarad nonsens?”

Darllenwch bennod gyflawn Job 24