Hen Destament

Testament Newydd

Job 24:1-6 beibl.net 2015 (BNET)

1. Pam nad ydy'r Un sy'n rheoli popeth yn cadw dyddiau barn?Pam nad ydy'r rhai sy'n ei nabod yn cael gweld hynny?

2. Mae pobl ddrwg yn dwyn tir drwy symud ffiniau,ac yn cymryd praidd pobl eraill i'w bugeilio.

3. Maen nhw'n dwyn asynnod yr amddifad,ac yn cadw ychen y weddw sydd mewn dyled.

4. Maen nhw'n gwthio'r anghenus o'r ffordd,ac mae pobl dlawd yn gorfod mynd i guddio.

5. Fel asynnod gwyllt yn yr anialwch,mae'r tlodion yn mynd allan i weithio,ac yn chwilio am fwyd ar dir diffaith –bwyd iddyn nhw a'u plant.

6. Maen nhw'n casglu cnwd ebran o gaeau pobl eraill,a lloffa grawnwin o winllannoedd pobl ddrwg.

Darllenwch bennod gyflawn Job 24