Hen Destament

Testament Newydd

Job 21:5-17 beibl.net 2015 (BNET)

5. Edrychwch arna i. Bydd hyn yn eich dychryn chi.Rhowch eich llaw dros eich ceg.

6. Dw i'n arswydo wrth feddwl am y peth! –mae fy nghorff yn crynu trwyddo.

7. Pam mae'r rhai drwg yn cael dal i fywa heneiddio a mynd yn fwy a mwy pwerus?

8. Mae eu plant yn cael bywyd da gyda nhw,ac maen nhw'n byw i weld plant eu plant.

9. Mae eu cartrefi'n saff, does dim rhaid ofni,a dŷn nhw ddim yn profi gwialen Duw'n eu cosbi.

10. Mae eu teirw'n bridio heb fethu,a'u gwartheg yn cael lloi heb golli'r un.

11. Mae eu plant bach yn cael rhedeg yn rhydd,ac yn prancio o gwmpas yn hapus fel ŵyn.

12. Yn canu'n llon gyda'r tambwrîn a'r delyn,a mwynhau gwrando ar alaw'r ffliwt.

13. Mae nhw'n cael byw yn braf am flynyddoedd,ac yna marw'n dawel a mynd i'r bedd mewn heddwch.

14. Eu hagwedd at Dduw ydy, ‘Gad lonydd i ni,does gynnon ni ddim eisiau gwybod am dy ffyrdd di!

15. Pwy ydy'r Un sy'n rheoli popeth? Pam ddylen ni ei wasanaethu?Beth ydy'r pwynt i ni weddïo arno?’

16. Ond dŷn nhw ddim yn llwyddo yn eu nerth eu hunain.Dydy ffordd y rhai drwg o feddwl yn gwneud dim sens i mi!

17. Pa mor aml mae lamp pobl ddrwg yn cael ei diffodd yn annisgwyl?Pa mor aml mae trychineb yn dod ar eu traws?Pa mor aml mae Duw'n gwneud iddyn nhw ddiodde am ei fod yn ddig?

Darllenwch bennod gyflawn Job 21