Hen Destament

Testament Newydd

Job 21:20-33 beibl.net 2015 (BNET)

20. Gad iddyn nhw brofi dinistr eu hunain,ac yfed o ddigofaint yr Un sy'n rheoli popeth!

21. Dŷn nhw'n poeni dim beth fydd yn digwydd i'w teuluoeddpan fydd eu dyddiau eu hunain wedi dod i ben!

22. All rhywun ddysgu gwers i Dduw?Onid fe sy'n barnu'r angylion yn y nefoedd uchod?

23. Mae un dyn yn marw pan mae'n iach ac yn ffit,yn braf ei fyd ac yn ofni dim;

24. yn edrych yn dda,a'i esgyrn yn gryfion.

25. Mae un arall yn marw yn ddyn chwerw,heb wybod beth ydy bod yn hapus.

26. Ond mae'r ddau fel ei gilydd yn gorwedd yn y pridda chynrhon drostyn nhw i gyd.

27. O ydw, dw i'n gwybod beth sydd ar eich meddyliau chi,a'r drwg dych chi'n bwriadu ei wneud i mi.

28. Dych chi'n gofyn, ‘Ble mae tŷ'r gŵr bonheddig?Ble mae cartrefi'r bobl ddrwg wedi mynd?’

29. Ydych chi ddim wedi gofyn i'r rhai sy'n teithio?Allwch chi ddim gwrthod eu tystiolaeth nhw:

30. fod pobl ddrwg yn cael eu harbed pan mae trychineb yn dod,ac yn dianc ar y dydd pan mae Duw'n ddig?

31. Does neb yn ceryddu dyn felly am ei ffyrdd;neb yn talu nôl iddo am beth mae wedi ei wneud.

32. Pan mae'n cael ei gario i'r fynwent,mae rhywrai yn gwylio dros ei fedd.

33. Mae gorwedd dan bridd y dyffryn yn felys iddo,a phawb yn ei ddilyn mewn prosesiwn;ac aeth tyrfa fawr yno o'i flaen.

Darllenwch bennod gyflawn Job 21