Hen Destament

Testament Newydd

Job 21:11-20 beibl.net 2015 (BNET)

11. Mae eu plant bach yn cael rhedeg yn rhydd,ac yn prancio o gwmpas yn hapus fel ŵyn.

12. Yn canu'n llon gyda'r tambwrîn a'r delyn,a mwynhau gwrando ar alaw'r ffliwt.

13. Mae nhw'n cael byw yn braf am flynyddoedd,ac yna marw'n dawel a mynd i'r bedd mewn heddwch.

14. Eu hagwedd at Dduw ydy, ‘Gad lonydd i ni,does gynnon ni ddim eisiau gwybod am dy ffyrdd di!

15. Pwy ydy'r Un sy'n rheoli popeth? Pam ddylen ni ei wasanaethu?Beth ydy'r pwynt i ni weddïo arno?’

16. Ond dŷn nhw ddim yn llwyddo yn eu nerth eu hunain.Dydy ffordd y rhai drwg o feddwl yn gwneud dim sens i mi!

17. Pa mor aml mae lamp pobl ddrwg yn cael ei diffodd yn annisgwyl?Pa mor aml mae trychineb yn dod ar eu traws?Pa mor aml mae Duw'n gwneud iddyn nhw ddiodde am ei fod yn ddig?

18. Pa mor aml maen nhw'n cael eu chwythu i ffwrdd fel gwellt,neu fel us yn cael ei gipio ymaith gan y gwynt?

19. Ydy Duw yn cosbi plant yr annuwiol yn eu lle?Dylai gosbi'r annuwiol eu hunain – iddyn nhw ddysgu eu gwers!

20. Gad iddyn nhw brofi dinistr eu hunain,ac yfed o ddigofaint yr Un sy'n rheoli popeth!

Darllenwch bennod gyflawn Job 21