Hen Destament

Testament Newydd

Job 21:1-11 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma Job yn ateb:

2. “Gwrandwch yn ofalus ar beth dw i'n ddweud;rhowch cyn lleied â hynny o gysur i mi!

3. Rhowch gyfle i mi,ac ar ôl i mi gael dweud fy mhwt cewch wneud sbort.

4. Ai cwyn yn erbyn person meidrol sydd gen i?Felly pam ga i ddim bod ychydig yn flin?

5. Edrychwch arna i. Bydd hyn yn eich dychryn chi.Rhowch eich llaw dros eich ceg.

6. Dw i'n arswydo wrth feddwl am y peth! –mae fy nghorff yn crynu trwyddo.

7. Pam mae'r rhai drwg yn cael dal i fywa heneiddio a mynd yn fwy a mwy pwerus?

8. Mae eu plant yn cael bywyd da gyda nhw,ac maen nhw'n byw i weld plant eu plant.

9. Mae eu cartrefi'n saff, does dim rhaid ofni,a dŷn nhw ddim yn profi gwialen Duw'n eu cosbi.

10. Mae eu teirw'n bridio heb fethu,a'u gwartheg yn cael lloi heb golli'r un.

11. Mae eu plant bach yn cael rhedeg yn rhydd,ac yn prancio o gwmpas yn hapus fel ŵyn.

Darllenwch bennod gyflawn Job 21