Hen Destament

Testament Newydd

Job 20:17-26 beibl.net 2015 (BNET)

17. Fydd e ddim yn cael mwynhau'r nentydd,yr afonydd a'r ffrydiau diddiwedd o fêl a caws colfran.

18. Fydd e ddim yn gallu cadw'r holl elw a lyncodd;fydd e ddim yn cael mwynhau ffrwyth ei fasnachu.

19. Pam? Am ei fod wedi sathru'r tlodion a'u gadael i ddioddef,ac wedi dwyn tai wnaeth e ddim eu hadeiladu.

20. Ond dydy e byth yn cael ei fodloni,a dydy ei chwant am fwy byth yn ei adael.

21. Does dim byd ar ôl iddo ei lowcio,felly fydd ei lwyddiant ddim yn gallu para.

22. Pan fydd ar ben ei ddigon, mae argyfwng yn dod,a phob math o helyntion yn dod ar ei draws.

23. Tra mae'n stwffio'i folbydd Duw yn anfon tân ei ddigofaint yn ei erbyn,ac yn tywallt ei saethau i lawr arno.

24. Wrth iddo ddianc rhag yr arfau haearnbydd saeth bres yn ei drywanu.

25. Wrth geisio ei thynnu allan o'i gefn,a blaen y saeth o'i iau,mae dychryn yn dod drosto.

26. Mae tywyllwch dudew yn disgwyl am ei drysorau,a bydd tân heb ei gynnau gan berson dynol yn ei losgi'n ulw,ac yn difa popeth sydd ar ôl yn ei babell.

Darllenwch bennod gyflawn Job 20