Hen Destament

Testament Newydd

Job 20:1-18 beibl.net 2015 (BNET)

1. Yna dyma Soffar o Naäma yn ymateb:

2. “Dw i ddim yn hapus o gwbl!Dw i'n teimlo fod rhaid i mi ateb.

3. Dw i wedi gwrando arnat ti'n ceryddu a sarhau,ac mae pob rheswm yn fy nghymell i ateb:

4. Wyt ti ddim yn sylweddoli? – ers cyn cof,pan gafodd pobl eu gosod ar y ddaear gyntaf –

5. dydy pobl ddrwg ddim yn cael dathlu'n hir.Fydd yr annuwiol ddim ond yn hapus dros dro.

6. Er i'w falchder dyfu'n dal,nes i'w ben gyffwrdd y cymylau,

7. bydd yn pydru fel ei garthion, ac yn diflannu am byth!Bydd y rhai oedd yn ei nabod yn gofyn, ‘Ble aeth e?’

8. Bydd wedi hedfan i ffwrdd fel breuddwyd wedi ei hanghofio;fel gweledigaeth ddaeth yn y nos ac yna diflannu.

9. Fydd y bobl oedd yn sylwi arno ddim yn ei weld eto;fydd e ddim yno, lle roedd yn amlwg o'r blaen.

10. Bydd rhaid i'w feibion dalu'n ôl i'r tlodion;bydd ei blant yn gollwng gafael ar ei gyfoeth.

11. Yn ifanc, a'i esgyrn yn llawn egni,bydd yn gorwedd yn y llwch heb ddim.

12. Er bod drygioni'n blasu'n felys iddo,a'i fod yn ei gadw o'r golwg dan ei dafod,

13. i gadw'r blas yn ei geg,a cheisio ei rwystro rhag darfod;

14. bydd yn suro yn ei stumog,ac fel gwenwyn gwiber yn ei fol.

15. Bydd yn chwydu'r holl gyfoeth a lyncodd;bydd Duw yn gwneud iddo gyfogi.

16. Roedd wedi sugno gwenwyn y wiber;ac mae neidr arall yn ei frathu a'i ladd.

17. Fydd e ddim yn cael mwynhau'r nentydd,yr afonydd a'r ffrydiau diddiwedd o fêl a caws colfran.

18. Fydd e ddim yn gallu cadw'r holl elw a lyncodd;fydd e ddim yn cael mwynhau ffrwyth ei fasnachu.

Darllenwch bennod gyflawn Job 20