Hen Destament

Testament Newydd

Job 2:1-9 beibl.net 2015 (BNET)

1. Daeth y diwrnod eto i'r bodau nefol ddod o flaen yr ARGLWYDD. A dyma Satan yn dod gyda nhw i sefyll o flaen yr ARGLWYDD.

2. Gofynnodd yr ARGLWYDD i Satan, “Ble wyt ti wedi bod?”Atebodd Satan yr ARGLWYDD, “Dim ond yn crwydro yma ac acw ar y ddaear.”

3. A dyma'r ARGLWYDD yn gofyn iddo, “Wyt ti wedi sylwi ar fy ngwas Job? Does neb tebyg iddo ar wyneb y ddaear. Mae'n ddyn gonest ac yn trin pobl eraill yn deg; mae'n addoli Duw o ddifri ac yn cadw draw oddi wrth ddrwg. Ac mae mor ffyddlon ag erioed er dy fod ti wedi fy annog i ddod â dinistr arno heb achos.”

4. Atebodd Satan, “Croen am groen! – mae pobl yn fodlon colli popeth i achub eu bywydau!

5. Petaet ti'n ei daro ag afiechyd a gwneud iddo ddioddef, byddai'n dy felltithio di yn dy wyneb!”

6. Felly dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Edrych, cei wneud beth bynnag wyt ti eisiau iddo; ond rhaid i ti ei gadw'n fyw.”

7. Felly dyma Satan yn mynd allan oddi wrth yr ARGLWYDD ac yn taro Job â briwiau cas o'i gorun i'w sawdl.

8. A dyma Job yn cymryd darn o botyn i grafu ei friwiau, a mynd i eistedd yn y lludw ar y domen sbwriel.

9. Ac meddai ei wraig wrtho, “Ti'n dal mor ffyddlon ag erioed, wyt ti? Melltithia Dduw, er mwyn i ti gael marw!”

Darllenwch bennod gyflawn Job 2