Hen Destament

Testament Newydd

Job 19:8-19 beibl.net 2015 (BNET)

8. Mae Duw wedi blocio fy ffordd; alla i ddim dianc!Mae wedi gwneud fy llwybr yn dywyll.

9. Mae wedi dwyn fy urddas oddi arna i,a thynnu'r goron oddi ar fy mhen.

10. Mae wedi fy mwrw i lawr yn llwyr – mae hi ar ben arna i!Mae fy ngobaith wedi mynd, fel coeden wedi ei diwreiddio.

11. Mae e wedi gwylltio'n lân gyda mi,ac yn fy nhrin fel un o'i elynion.

12. Mae ei fyddin yn ymosod gyda'i gilydd;wedi codi rampiau i warchae yn fy erbyna gwersylla o gwmpas fy mhabell.

13. Mae wedi gwneud i'm perthnasau gadw draw;dydy'r bobl sy'n fy nabod i ddim eisiau gwybod.

14. Mae fy nghymdogion wedi troi cefn arna i,a'm ffrindiau gorau wedi anghofio amdana i.

15. Mae fy morynion yn fy nhrin i fel dieithryn –fel petawn i'n rhywun o wlad arall.

16. Dw i'n galw fy ngwas, ond dydy e ddim yn ateb,er fy mod yn crefu arno i ddod.

17. Mae fy anadl yn atgas i'm gwraig;a dw i'n drewi'n ffiaidd i'm teulu.

18. Mae hyd yn oed plant bach yn gwneud sbort arna i;pan dw i'n codi, maen nhw'n gwawdio.

19. Mae fy ffrindiau agosaf yn fy ffieiddio;a'r rhai dw i'n eu caru wedi troi yn fy erbyn.

Darllenwch bennod gyflawn Job 19