Hen Destament

Testament Newydd

Job 19:5-15 beibl.net 2015 (BNET)

5. Ond mae'n rhaid i chi ddangos eich bod chi'n well na fi,a defnyddio'r hyn dw i'n ddiodde i brofi eich pwynt!

6. Dylech weld fod Duw wedi gwneud cam â mi;mae wedi f'amgylchynu ac yn gwarchae yn fy erbyn.

7. Dw i'n gweiddi, ‘Trais!’ ond does neb yn ateb;gweiddi am help, ond does dim tegwch.

8. Mae Duw wedi blocio fy ffordd; alla i ddim dianc!Mae wedi gwneud fy llwybr yn dywyll.

9. Mae wedi dwyn fy urddas oddi arna i,a thynnu'r goron oddi ar fy mhen.

10. Mae wedi fy mwrw i lawr yn llwyr – mae hi ar ben arna i!Mae fy ngobaith wedi mynd, fel coeden wedi ei diwreiddio.

11. Mae e wedi gwylltio'n lân gyda mi,ac yn fy nhrin fel un o'i elynion.

12. Mae ei fyddin yn ymosod gyda'i gilydd;wedi codi rampiau i warchae yn fy erbyna gwersylla o gwmpas fy mhabell.

13. Mae wedi gwneud i'm perthnasau gadw draw;dydy'r bobl sy'n fy nabod i ddim eisiau gwybod.

14. Mae fy nghymdogion wedi troi cefn arna i,a'm ffrindiau gorau wedi anghofio amdana i.

15. Mae fy morynion yn fy nhrin i fel dieithryn –fel petawn i'n rhywun o wlad arall.

Darllenwch bennod gyflawn Job 19