Hen Destament

Testament Newydd

Job 19:18-29 beibl.net 2015 (BNET)

18. Mae hyd yn oed plant bach yn gwneud sbort arna i;pan dw i'n codi, maen nhw'n gwawdio.

19. Mae fy ffrindiau agosaf yn fy ffieiddio;a'r rhai dw i'n eu caru wedi troi yn fy erbyn.

20. Dw i'n ddim byd ond croen ac esgyrna dw i'n dal yma o drwch blewyn!

21. Byddwch yn garedig ata i! Chi ydy fy ffrindiau!Mae Duw wedi fy nharo i!

22. Pam mae'n rhaid i chi hefyd fy erlid, fel Duw?Oes yna ddim diwedd ar eich ymosodiadau?

23. O na fyddai fy ngeiriau yn cael eu hysgrifennu i lawr,a'u cofnodi'n glir mewn sgrôl;

24. eu naddu ar graig gyda chŷn haearn,a'u llenwi â phlwm i gael eu gweld am byth!

25. Ond dw i'n gwybod fod fy Amddiffynnwr yn fyw,ac yn y diwedd y bydd yn sefyll ar y ddaear i dystio ar fy rhan,

26. hyd yn oed ar ôl i'm croen i gael ei ddifa.Ond cael gweld Duw tra dw i'n dal yn fyw – dyna dw i eisiau,

27. ei weld drosof fy hun;i'm llygaid i ei weld, nid rhywun arall:Dw i'n hiraethu am hynny fwy na dim.

28. Wrth ofyn, ‘Sut allwn ni ei erlid e?’ac wrth ddweud, ‘Arno fe'i hun mae'r bai!’

29. dylech chi ofni cael eich cosbi eich hunain –mae eich dicter chi'n haeddu ei gosbi gan y cleddyf!Cofiwch fod yna farn i ddod!”

Darllenwch bennod gyflawn Job 19