Hen Destament

Testament Newydd

Job 19:1-11 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma Job yn ateb:

2. “Am faint mwy dych chi'n mynd i'm poenydio,a'm dryllio gyda'ch areithio?

3. Dych chi'n fy nwrdio i dro ar ôl tro,ac yn fy hambygio yn gwbl haerllug.

4. A hyd yn oed petai'n wir fy mod ar fai,dim ond fi fyddai'n dioddef wedyn!

5. Ond mae'n rhaid i chi ddangos eich bod chi'n well na fi,a defnyddio'r hyn dw i'n ddiodde i brofi eich pwynt!

6. Dylech weld fod Duw wedi gwneud cam â mi;mae wedi f'amgylchynu ac yn gwarchae yn fy erbyn.

7. Dw i'n gweiddi, ‘Trais!’ ond does neb yn ateb;gweiddi am help, ond does dim tegwch.

8. Mae Duw wedi blocio fy ffordd; alla i ddim dianc!Mae wedi gwneud fy llwybr yn dywyll.

9. Mae wedi dwyn fy urddas oddi arna i,a thynnu'r goron oddi ar fy mhen.

10. Mae wedi fy mwrw i lawr yn llwyr – mae hi ar ben arna i!Mae fy ngobaith wedi mynd, fel coeden wedi ei diwreiddio.

11. Mae e wedi gwylltio'n lân gyda mi,ac yn fy nhrin fel un o'i elynion.

Darllenwch bennod gyflawn Job 19