7. Mae fy llygaid yn pylu oherwydd y gofid,a'm corff i gyd yn ddim ond cysgod.
8. Mae pobl dda yn methu credu'r peth,a'r un heb fai yn cael ei gythruddo gan yr annuwiol.
9. Mae'r rhai cyfiawn yn cadw eu hunain yn bur,a'r rhai glân eu dwylo yn mynd o nerth i nerth.
10. Felly dowch yn eich blaen i ymosod arna i eto!Does dim dyn doeth i'w gael yn eich plith chi!
11. Mae fy mywyd ar ben,a'm cynlluniau wedi eu chwalu –pethau oeddwn i wir eisiau eu gwneud.
12. Mae'r ffrindiau yma'n dweud fod nos yn ddydd!‘Mae'n olau!’ medden nhw, a hithau'n hollol dywyll!
13. Dw i'n edrych ymlaen at gartrefu yn y bedd,a gwneud fy ngwely yn y tywyllwch;
14. Dw i'n dweud wrth y bedd, ‘Fy nhad i wyt ti,’ac wrth y cynrhon, ‘Fy mam!’, ‘Fy chwaer!’ –