Hen Destament

Testament Newydd

Job 17:10-16 beibl.net 2015 (BNET)

10. Felly dowch yn eich blaen i ymosod arna i eto!Does dim dyn doeth i'w gael yn eich plith chi!

11. Mae fy mywyd ar ben,a'm cynlluniau wedi eu chwalu –pethau oeddwn i wir eisiau eu gwneud.

12. Mae'r ffrindiau yma'n dweud fod nos yn ddydd!‘Mae'n olau!’ medden nhw, a hithau'n hollol dywyll!

13. Dw i'n edrych ymlaen at gartrefu yn y bedd,a gwneud fy ngwely yn y tywyllwch;

14. Dw i'n dweud wrth y bedd, ‘Fy nhad i wyt ti,’ac wrth y cynrhon, ‘Fy mam!’, ‘Fy chwaer!’ –

15. Felly, ble mae fy ngobaith i?Oes rhywun yn gweld unrhyw obaith i mi?

16. Fydd gobaith yn mynd gyda mi drwy giatiau marwolaeth?Fyddwn ni'n mynd i lawr gyda'n gilydd i'r pridd?”

Darllenwch bennod gyflawn Job 17