Hen Destament

Testament Newydd

Job 15:23-34 beibl.net 2015 (BNET)

23. Mae'n crwydro – bydd yn fwyd i fwlturiaid;ac mae'n gwybod fod y diwrnod tywyll yn dod.

24. Mae'n cael ei ddychryn gan ofida'i lethu gan bryder,fel brenin ar fin mynd i ryfel.

25. Am ei fod wedi codi ei ddwrn i fygwth Duw,a gwrthwynebu'r Duw sy'n rheoli popeth.

26. Wedi ei herio ac ymosod arnoâ'i darian drwchus gref!

27. Er ei fod yn llond ei groen ac yn iacha'i lwynau'n gryfion,

28. mae'n byw mewn trefi fydd yn cael eu dinistrio,ac mewn tai lle bydd neb ar ôl;rhai fydd yn ddim mwy na pentwr o rwbel.

29. Fydd e ddim yn aros yn gyfoethog,a fydd yr hyn sydd ganddo ddim yn para;fydd ganddo ddim eiddo ar wasgar drwy'r wlad.

30. Fydd e ddim yn dianc o'r tywyllwch.Fel coeden a'r fflamau wedi llosgi ei brigau;bydd Duw yn anadlu arno, a bydd yn diflannu.

31. Dylai beidio trystio'r hyn sy'n ddiwerth, a'i dwyllo ei hun,fydd dim yn cael ei dalu'n ôl iddo.

32. Bydd yn gwywo o flaen ei amser,cyn i'w frigau gael cyfle i flaguro.

33. Bydd fel gwinwydden yn gollwng ei grawnwin;neu goeden olewydd yn bwrw ei blodau.

34. Mae cwmni pobl annuwiol fel coeden ddiffrwyth;ac mae tân yn llosgi pebyll y rhai sy'n derbyn breib.

Darllenwch bennod gyflawn Job 15