Hen Destament

Testament Newydd

Job 14:13-21 beibl.net 2015 (BNET)

13. O na fyddet ti'n fy nghuddio'n saff yn y bedd,a'm cadw o'r golwg nes i dy ddigofaint fynd heibio;yna gosod amser penodol i'm cofio i eto.

14. Ar ôl i rywun farw, fydd e'n cael byw eto?Ar hyd fy mywyd caled byddwn i'n disgwyli rywun ddod i'm rhyddhau.

15. Byddet ti'n galw, a byddwn innau'n dod;byddet yn hiraethu am waith dy ddwylo.

16. Byddet ti'n gofalu amdana i bob cam,heb wylio am fy mhechod o hyd.

17. Byddai pob trosedd o'r golwg mewn bag wedi ei selio,a'm pechod wedi ei guddio dan orchudd.

18. Ond na, fel mae mynyddoedd yn cael eu herydu,a chreigiau yn syrthio o'u lle;

19. neu fel mae dŵr yn gwneud carreg yn llyfn,a glaw trwm yn golchi ymaith bridd y ddaear;dyna sut rwyt ti'n lladd gobaith rhywun.

20. Ti'n ei drechu'n llwyr – mae ar ben arno!Rwyt yn ei anffurfio ac yn ei anfon i ffwrdd.

21. Fydd e ddim yn gwybod os bydd ei feibion yn cael anrhydedd;nac yn ymwybodol os cân nhw eu bychanu.

Darllenwch bennod gyflawn Job 14