Hen Destament

Testament Newydd

Job 13:7-26 beibl.net 2015 (BNET)

7. Ydych chi'n dweud y pethau annheg yma ar ran Duw?Ydych chi'n dweud celwydd er ei fwyn e?

8. Ydych chi am adael i Dduw ddweud rhywbeth?Neu oes angen i chi ei amddiffyn e?

9. Sut fydd hi arnoch chi pan fydd e'n eich archwilio chi?Neu allwch chi ei dwyllo fe fel dych chi'n twyllo pobl?

10. Bydd e'n siŵr o'ch ceryddu chiam ddangos ffafr annheg ar y slei.

11. Bydd ei ysblander yn codi arswyd arnoch chi,a bydd ei ofn yn cydio ynoch.

12. Geiriau gwag ydy'ch dywediadau slic chi;atebion disylwedd, yn frau fel clai.

13. Byddwch ddistaw, i mi gael cyfle i siarad.Beth bynnag fydd yn digwydd i mi,

14. dw i ddim am ollwng gafael!Dw i'n fodlon mentro fy mywyd!

15. Falle y bydd e'n fy lladd i; dw i heb obaith!Ond dw i'n mynd i amddiffyn fy hun o'i flaen e.

16. Yn wir, gallai hyn droi i fod yn achubiaeth i mi –fyddai'r annuwiol byth yn meiddio sefyll o'i flaen.

17. Gwrandwch yn ofalus arna i;clywch beth sydd gen i i'w ddweud.

18. Cewch weld, dw i wedi paratoi fy amddiffyniad,a dw i'n gwybod mai fi sy'n iawn.

19. Petai rhywun yn gallu profi'r achos yn fy erbynbyddwn i'n tewi wedyn a disgwyl marw.

20. Ond gwna ddau beth i mi, o Dduw,fel bod dim rhaid i mi guddio oddi wrthot ti:

21. Tynn dy law yn ôl,a stopia godi dychryn arna i.

22. Yna galw fi i gyfri, a bydda i'n ymateb;neu gad i mi siarad gyntaf, i ti fy ateb i.

23. Sawl gwaith dw i wedi gwneud camgymeriad a phechu?Dangos i mi'r pechod a'r gwrthryfel yn dy erbyn di.

24. Pam wyt ti'n cuddio oddi wrtho i?Pam wyt ti'n fy nhrin i fel gelyn?

25. Pam pryfocio deilen sy'n cael ei chwythu gan wynt?Pam rhedeg ar ôl us wedi sychu?

26. Rwyt wedi dyfarnu cosb chwerw i mi,a gwneud i mi dalu am gamgymeriadau fy ieuenctid.

Darllenwch bennod gyflawn Job 13