Hen Destament

Testament Newydd

Job 12:13-24 beibl.net 2015 (BNET)

13. Duw ydy'r un doeth a chryf;ganddo fe y mae cyngor a deall.

14. Does dim ailadeiladu beth mae e wedi ei chwalu;na dianc i'r sawl mae e wedi ei garcharu.

15. Pan mae'n dal y glawogydd yn ôl, mae sychder yn dilyn;Pan mae e'n eu gollwng yn rhydd, maen nhw'n boddi'r tir.

16. Duw ydy'r un cryf a medrus;mae'r un sydd ar goll a'r un sy'n camarwainyn atebol iddo.

17. Mae'n arwain cynghorwyr i ffwrdd yn noeth,ac yn gwneud i farnwyr edrych fel ffyliaid.

18. Mae'n tynnu gwisg brenhinoedd oddi arnyn nhw,ac yn rhwymo gwisg caethwas amdanyn nhw.

19. Mae'n arwain offeiriaid i ffwrdd yn noeth,ac yn bwrw swyddogion y deml i lawr.

20. Mae'n cau cegau'r cynghorwyr ffyddlon,ac yn diddymu cyngor y dynion doeth.

21. Mae'n dwyn anfri ar y bobl fawr,ac yn diarfogi'r rhyfelwr cryf.

22. Mae'n datguddio pethau dirgel y tywyllwch,ac yn dod â phethau tywyll i'r golau.

23. Mae'n gwneud i wledydd dyfu, ac yna'n eu dinistrio;Mae'n estyn ffiniau'r gwledydd ac yna'n eu chwalu.

24. Mae'n gwneud i arweinwyr y bobl fynd o'u pwyll,ac yn eu gadael i grwydro mewn anialwch heb lwybrau;

Darllenwch bennod gyflawn Job 12