Hen Destament

Testament Newydd

Job 12:1-9 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma Job yn ateb:

2. “Mae'n amlwg eich bod chi'n bobl mor bwysig!Fydd doethineb ddim yn bod ar ôl i chi fynd!

3. Ond mae gen innau feddwl hefyd –dw i ddim gwaeth na chi.Mae pawb yn gwybod y pethau yna!

4. Ond dw i wedi troi yn destun sbort i'm ffrindiau –ie fi, oedd yn galw ar Dduw ac yn cael ateb.Fi, y dyn da a gonest – yn destun sbort!

5. Mae pobl gyfforddus eu byd yn wfftio fy helyntion –‘Dyna sy'n digwydd pan mae dyn yn llithro!’

6. Ond mae lladron yn cael bywyd braf,a'r rhai sy'n herio Duw yn byw yn saff –ac yn cario eu duw yn eu dwylo!

7. Ond meddwch chi:‘Gofyn i'r anifeiliaid – byddan nhw'n dy ddysgu;neu i'r adar – byddan nhw'n dweud wrthot ti.

8. Neu gofyn i'r ddaear – bydd hi'n dy ddysgu,ac i bysgod y môr ddangos y ffordd i ti.

9. Pa un ohonyn nhw sydd ddim yn gwybodmai Duw sydd wedi gwneud hyn?

Darllenwch bennod gyflawn Job 12