Hen Destament

Testament Newydd

Job 11:4-19 beibl.net 2015 (BNET)

4. Ti'n dweud, ‘Mae beth dw i'n gredu yn iawn,a dw i'n lân yn dy olwg di, O Dduw.’

5. O na fyddai Duw yn dweud rhywbeth,yn dy ateb di drosto'i hun,

6. ac yn dangos i ti beth ydy doethineb go iawn!Mae dwy ochr i bob stori!Byddet ti'n gweld fod Duw yn dy gosbi lai nag wyt ti'n ei haeddu!

7. Wyt ti'n meddwl dy fod yn deall hanfod Duw?Wyt ti wedi darganfod ffiniau i allu'r Un sy'n rheoli popeth?

8. Mae'n uwch na'r nefoedd – beth alli di ei wneud?Mae'n ddyfnach nag Annwn – beth wyt ti'n ei wybod?

9. Mae'n fwy na'r ddaearac yn lletach na'r môr.

10. Os ydy Duw'n dod heibio ac arestio rhywun,a mynd ag e i'r llys, pwy sy'n gallu ei rwystro?

11. Achos mae e'n nabod y rhai sy'n twyllo;pan mae'n gweld drygioni, mae'n delio ag e.

12. Ond mae mor amhosib i ddyn dwl droi'n ddoethag ydy hi i asyn gwyllt gael ei eni'n ddof!

13. Os gwnei di droi at Dduw,ac estyn dy ddwylo ato mewn gweddi –

14. troi cefn ar y drwg rwyt ti wedi ei wneud,a pheidio rhoi lle i anghyfiawnder –

15. yna byddi'n dal dy ben yn uchel, heb gywilydd,ac yn gallu sefyll yn gadarn, heb ofn.

16. Byddi'n anghofio dy holl drybini –bydd fel dŵr wedi mynd dan y bont.

17. Bydd bywyd yn brafiach na chanol dydd,a'r adegau mwyaf tywyll yn olau fel y bore!

18. Byddi'n teimlo'n saff, am fod gen ti obaith;yn edrych o dy gwmpas ac yn gorffwys yn ddiogel.

19. Byddi'n gorwedd i lawr, heb angen bod ofn;a bydd llawer yn ceisio ennill dy ffafr.

Darllenwch bennod gyflawn Job 11