Hen Destament

Testament Newydd

Job 1:8-22 beibl.net 2015 (BNET)

8. A dyma'r ARGLWYDD yn gofyn i Satan, “Wyt ti wedi sylwi ar fy ngwas Job? Does neb tebyg iddo ar wyneb y ddaear. Mae'n ddyn gonest ac yn trin pobl eraill yn deg; mae'n addoli Duw o ddifri ac yn cadw draw oddi wrth ddrwg.”

9. Atebodd Satan, “Ond mae dy addoli di yn fanteisiol iddo!

10. Y ffaith ydy, rwyt ti wedi gosod ffens o'i gwmpas i'w amddiffyn, ac o gwmpas ei deulu a popeth sydd ganddo. Ti'n gadael iddo lwyddo beth bynnag mae'n ei wneud. Mae ganddo ddigon o anifeiliaid i lenwi'r wlad i gyd!

11. Ond petaet ti'n cymryd y cwbl oddi arno, byddai'n dy felltithio di yn dy wyneb!”

12. Felly dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Satan, “Edrych, cei wneud beth bynnag rwyt ti eisiau i'w eiddo; ond paid cyffwrdd Job ei hun.”Yna dyma Satan yn mynd allan oddi wrth yr ARGLWYDD.

13. Un diwrnod, roedd meibion a merched Job yn bwyta ac yn yfed gwin mewn parti yn nhŷ'r brawd hynaf.

14. A dyma negesydd yn dod at Job a dweud, “Roedd yr ychen yn aredig, a'r asennod yn pori heb fod yn bell oddi wrthyn nhw,

15. a dyma'r Sabeaid yn ymosod ac yn eu cymryd nhw i gyd, a lladd y gweision gyda'r cleddyf. Fi ydy'r unig un lwyddodd i ddianc i ddweud wrthot ti.”

16. Tra roedd yn dal i siarad, dyma negesydd arall yn cyrraedd a dweud, “Mae mellten wedi lladd y defaid i gyd a'r gweision oedd yn gofalu amdanyn nhw – mae'r cwbl wedi mynd! Fi ydy'r unig un lwyddodd i ddianc i ddweud wrthot ti.”

17. Tra roedd hwn yn dal i siarad, daeth negesydd arall eto, a dweud, “Mae Caldeaid wedi dwyn y camelod i gyd. Roedd tair mintai ohonyn nhw, yn ymosod o wahanol gyfeiriadau. Maen nhw wedi cymryd y cwbl, ac wedi lladd y gweision i gyd. Fi ydy'r unig un lwyddodd i ddianc i ddweud wrthot ti.”

18. A tra roedd hwn yn dal i siarad dyma un arall yn dod ac yn dweud, “Roedd dy feibion a dy ferched di'n bwyta ac yn yfed gwin yn nhŷ'r brawd hynaf,

19. ac yn sydyn dyma gorwynt ofnadwy yn chwythu dros yr anialwch ac yn taro'r tŷ. Syrthiodd yr adeilad ar ben y bobl ifanc a'u lladd nhw i gyd! Fi ydy'r unig un lwyddodd i ddianc i ddweud wrthot ti.”

20. Dyma Job yn codi ar ei draed ac yn rhwygo ei ddillad. Yna siafiodd ei ben a mynd ar ei liniau o flaen Duw â'i wyneb ar lawr,

21. a dweud:“Ces i fy ngeni heb ddim,a bydda i'n marw heb ddim.Yr ARGLWYDD wnaeth roi popeth i mi,a'r ARGLWYDD sydd wedi cymryd popeth oddi arna i.Boed i enw'r ARGLWYDD gael ei foli!”

22. Er gwaetha'r cwbl, wnaeth Job ddim pechu na rhoi'r bai ar Dduw.

Darllenwch bennod gyflawn Job 1