1. Un tro roedd dyn o'r enw Job yn byw yng ngwlad Us. Roedd yn ddyn gonest, yn trin pobl eraill yn deg, ac yn ddyn oedd yn addoli Duw o ddifri ac yn cadw draw oddi wrth ddrwg.
2. Roedd ganddo saith mab a thair merch.
3. A dyma restr o'i holl eiddo: saith mil o ddefaid, tair mil o gamelod, pum cant pâr o ychen a phum cant o asennod, a nifer fawr iawn o weithwyr. Roedd yn fwy cyfoethog nag unrhyw un arall o bobl y dwyrain i gyd.
4. Roedd ei feibion yn arfer cynnal partïon yn eu cartrefi, pob un yn ei dro ar ddiwrnod penodol o'r wythnos. Bydden nhw'n gwahodd eu tair chwaer i fwyta ac yfed gyda nhw.
5. Pan oedd yr wythnos o bartïo drosodd, byddai Job yn anfon amdanyn nhw iddyn nhw fynd trwy'r ddefod o gael eu glanhau. Byddai'n codi'n gynnar yn y bore, ac yn cyflwyno offrymau i'w llosgi i Dduw ar eu rhan nhw i gyd. Roedd yn meddwl, “Falle fod fy mhlant i wedi pechu, ac wedi melltithio Duw.” Roedd Job yn gwneud hyn yn rheolaidd.