Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 9:17-26 beibl.net 2015 (BNET)

17. Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud:“Meddyliwch yn ofalus beth sy'n digwydd.Galwch am y gwragedd sy'n galaru dros y meirw.Anfonwch am y rhai mwyaf profiadol.

18. Ie, galwch arnyn nhw i ddod ar frys,a dechrau wylofain yn uchel.Crïo nes bydd y dagrau'n llifo,a'n llygaid ni'n socian.

19. Mae sŵn crïo uchel i'w glywed yn Seion:‘Mae hi ar ben arnon ni!Dŷn ni wedi'n cywilyddio'n llwyr,Rhaid i ni adael ein gwlad,achos maen nhw wedi chwalu'n tai ni i gyd.’”

20. “Felly, chi wragedd, gwrandwch beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud. Gwrandwch yn ofalus ar ei eiriau.Dysgwch eich merched i alaru.Dysgwch y gân angladdol yma i'ch gilydd:

21. ‘Mae marwolaeth wedi dringo drwy'r ffenestri;mae wedi dod i mewn i'n palasau.Mae wedi cipio ein plant oedd yn chwarae yn y strydoedd,a'r bechgyn ifanc oedd yn cyfarfod ar y sgwâr yn y trefi.’”

22. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Bydd cyrff marw yn gorweddfel tail wedi ei wasgaru ar gae,neu ŷd wedi ei dorri a'i adael yn sypiau,a neb yn ei gasglu.”

23. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Ddylai pobl glyfar ddim brolio eu clyfrwch,na'r pwerus eu bod nhw'n bobl bwerus;a ddylai pobl gyfoethog ddim brolio'i cyfoeth.

24. Dim ond un peth ddylai pobl frolio amdano:eu bod nhw yn fy nabod i, ac wedi deallmai fi ydy'r ARGLWYDD sy'n llawn cariad,yn deg, ac yn gwneud beth sy'n iawn ar y ddaear.A dw i eisiau i bobl wneud yr un fath,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

25. “Gwyliwch!” meddai'r ARGLWYDD. “Mae'r amser yn dod pan fydda i'n cosbi'r rhai sydd ond wedi cael enwaediad corfforol –

26. pobl yr Aifft, Jwda, Edom, Ammon, Moab, a'r bobl sy'n byw ar ymylon yr anialwch. Does dim un ohonyn nhw wedi eu henwaedu go iawn, a dydy calon pobl Israel ddim wedi ei henwaedu go iawn chwaith.”

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 9