Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 9:1-15 beibl.net 2015 (BNET)

1. O na fyddai fy mhen yn ffynnon ddŵra'r dagrau yn pistyllio o'm llygaid,Wedyn byddwn i'n crïo ddydd a nosam y rhai hynny o'm pobl sydd wedi cael eu lladd!

2. O na fyddai gen i gaban yn yr anialwch –llety ble mae teithwyr yn aros dros nos.Wedyn byddwn i'n gallu dianc,a mynd i ffwrdd oddi wrth fy mhobl.Maen nhw i gyd wedi bod yn anffyddlon i Dduw.Cynulleidfa o fradwyr ydyn nhw!

3. “Mae eu tafodau fel bwa wedi ei blygui saethu celwyddau.Maen nhw wedi dod yn bwerus yn y wladdrwy fod yn anonest.Ac maen nhw wedi mynd o ddrwg i waeth!Does ganddyn nhw ddim eisiau fy nabod i.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

4. “Gwyliwch eich ffrindiau!Allwch chi ddim trystio'ch perthnasau hyd yn oed!Maen nhw i gyd yn twyllo ei gilydd,ac yn dweud celwyddau cas am ei gilydd.

5. Mae pawb yn twyllo eu ffrindiau.Does neb yn dweud y gwir.Maen nhw wedi hen arfer dweud celwydd;yn pechu, ac yn rhy wan i newid eu ffyrdd.

6. Pentyrru gormes ar ben gormes, a twyll ar ben twyll!Does ganddyn nhw ddim eisiau fy nabod i,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

7. Felly dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud:“Dw i'n mynd i'w puro nhw mewn tân a'u profi nhw.Beth arall alla i ei wneud â'm pobl druan?

8. Mae eu tafodau fel saethau marwol,yn dweud celwydd drwy'r amser.Maen nhw'n dweud eu bod yn dymuno'n dda i'w cymdogion,ond yn eu calon yn bwriadu brad!

9. Ddylwn i ddim eu cosbi nhw am hyn?” meddai'r ARGLWYDD“Ddylwn i ddim dial ar wlad fel yma?”

10. Dw i'n mynd i grïo'n uchel am y mynyddoedd,a galaru dros diroedd pori'r anialwch.Maen nhw wedi llosgi, a does neb yn teithio'r ffordd honno.Does dim sŵn anifeiliaid yn brefu.Mae hyd yn oed yr adar a'r anifeiliaid gwylltionwedi dianc oddi yno.

11. “Bydda i'n gwneud Jerwsalem yn bentwr o rwbel,ac yn lle i siacaliaid fyw.Bydda i'n dinistrio pentrefi Jwda,a fydd neb yn gallu byw ynddyn nhw.”

12. Pwy sy'n ddigon doeth i ddeall pam mae hyn wedi digwydd? Gyda pwy mae'r ARGLWYDD wedi siarad, er mwyn iddo esbonio'r peth?Pam mae'r wlad wedi ei difetha'n llwyr,a'r tir fel anialwch does neb yn teithio trwyddo?

13. A dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Am eu bod nhw wedi troi cefn ar y ddysgeidiaeth rois i iddyn nhw. Dŷn nhw ddim wedi gwrando arna i, a gwneud beth ro'n i'n ddweud.

14. Yn lle hynny maen nhw wedi bod yn hollol ystyfnig a gwneud beth maen nhw eisiau, ac wedi addoli'r duwiau Baal yr un fath â'u hynafiaid.

15. Felly, dyma dw i, Duw Israel, yr ARGLWYDD holl-bwerus, yn ei ddweud:‘Dw i'n mynd i roi profiadau chwerw yn fwyd i'r bobl,a dŵr gwenwynig barn iddyn nhw i'w yfed.’

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 9