Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 7:25-34 beibl.net 2015 (BNET)

25. Ond o'r diwrnod y daeth eich hynafiaid allan o'r Aifft hyd heddiw dw i wedi dal ati i anfon fy ngweision y proffwydi atoch chi, dro ar ôl tro.

26. Ond doedd neb yn gwrando arna i nac yn cymryd unrhyw sylw. Roedden nhw'n hollol benstiff – hyd yn oed yn waeth na'u hynafiaid.

27. “Dywed hyn i gyd wrthyn nhw, Jeremeia. Ond fyddan nhw ddim yn gwrando arnat ti. Byddi di'n galw arnyn nhw, ond paid disgwyl iddyn nhw ymateb.

28. Dywed wrthyn nhw, ‘Mae'r wlad yma wedi gwrthod gwrando ar yr ARGLWYDD ei Duw, a gwrthod cael ei dysgu. Mae gonestrwydd wedi diflannu! Dydy pobl ddim hyd yn oed yn honni ei ddilyn bellach!’

29. ‘Siafiwch eich gwallt, bobl Jerwsalem, a'i daflu i ffwrdd.Canwch gân angladdol ar ben y bryniau.Mae'r ARGLWYDD wedi'ch gwrthod, a throi ei gefnar y genhedlaeth yma sydd wedi ei ddigio.’”

30. “Dw i wedi gwrthod pobl Jwda am eu bod nhw wedi gwneud drwg,” meddai'r ARGLWYDD. “Maen nhw'n llygru fy nheml i drwy osod eilun-dduwiau ffiaidd ynddi.

31. Maen nhw hefyd wedi codi allorau paganaidd yn Toffet yn Nyffryn Ben-hinnom. Maen nhw'n aberthu eu plant bach yn y tân! Wnes i erioed ddweud wrthyn nhw am wneud y fath beth. Fyddai peth felly byth wedi croesi fy meddwl i!

32. “Felly mae'r amser yn dod,” meddai'r ARGLWYDD, “pan fydd neb yn galw'r lle yn Toffet neu dyffryn Ben-hinnom. ‛Dyffryn Llofruddiaeth‛ fydd enw'r lle. Fydd dim digon o le i gladdu pawb fydd yn cael eu lladd yno.

33. Bydd cyrff dynol yn fwyd i adar ac anifeiliaid gwylltion. Fydd yna neb ar ôl i'w dychryn nhw i ffwrdd.

34. Dw i'n mynd i roi taw ar sŵn pobl yn chwerthin a joio ar strydoedd Jerwsalem, ac yn mwynhau eu hunain mewn parti priodas. Bydd y wlad yn anialwch diffaith.”

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 7