Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 7:15-26 beibl.net 2015 (BNET)

15. Dw i'n mynd i'ch gyrru chi o'm golwg i, yn union fel gwnes i yrru pobl Israel i ffwrdd.’”

16. “A ti Jeremeia, paid gweddïo dros y bobl yma. Paid galw arna i na gweddïo drostyn nhw. Paid pledio arna i i'w helpu nhw, achos fydda i ddim yn gwrando arnat ti.

17. Wyt ti ddim yn gweld beth maen nhw'n ei wneud drwy drefi Jwda a strydoedd Jerwsalem?

18. Mae'r plant yn casglu coed tân, y tadau'n cynnau'r tân a'r gwragedd yn paratoi toes i wneud cacennau i'r dduwies maen nhw'n ei galw'n ‛Frenhines y Nefoedd‛! Maen nhw'n tywallt offrwm o ddiod i dduwiau paganaidd dim ond i'm gwylltio i.

19. Ond dim fi ydy'r un sy'n cael ei frifo!” meddai'r ARGLWYDD. “Brifo nhw'u hunain, a cywilyddio nhw'n hunain maen nhw yn y pen draw.”

20. Felly dyma mae'r Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud: “Dw i'n wyllt gandryll, a bydda i'n tywallt fy llid ar y lle yma. Bydd pobl ac anifeiliaid, coed a chnydau yn cael eu dinistrio. Bydd fel tân sydd ddim yn diffodd.”

21. Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: “Cymerwch gig yr offrwm sydd i'w losgi'n llwyr a'i ychwanegu at yr aberthau eraill. Waeth i chi fwyta hwnnw hefyd!

22. Pan ddes i â'ch hynafiaid chi allan o wlad yr Aifft, nid rhoi rheolau iddyn nhw am offrymau i'w llosgi ac aberthau wnes i.

23. Beth ddywedais i oedd, ‘Gwrandwch ar beth dw i'n ddweud. Bydda i'n Dduw i chi a byddwch chi'n bobl i mi. Dw i eisiau i chi fyw yn union fel dw i'n dweud wrthoch chi, a bydd pethau'n mynd yn dda i chi.’

24. “Ond doedden nhw ddim am wrando na chymryd unrhyw sylw ohono i. Dim ond dilyn y duedd ynddyn nhw i wneud drwg, a mynd yn bellach oddi wrtho i yn lle dod yn nes.

25. Ond o'r diwrnod y daeth eich hynafiaid allan o'r Aifft hyd heddiw dw i wedi dal ati i anfon fy ngweision y proffwydi atoch chi, dro ar ôl tro.

26. Ond doedd neb yn gwrando arna i nac yn cymryd unrhyw sylw. Roedden nhw'n hollol benstiff – hyd yn oed yn waeth na'u hynafiaid.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 7