A dyma Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn dod â'i fyddin gyfan i ymosod ar Jerwsalem. Digwyddodd hyn ar y degfed diwrnod o'r degfed mis yn nawfed flwyddyn Sedeceia fel brenin. Dyma nhw'n gwersylla o gwmpas y ddinas, ac yn codi rampiau i warchae arni.