Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 52:21-30 beibl.net 2015 (BNET)

21. Roedd y pileri yn wyth metr o uchder, pum metr a hanner o gylchedd, yn wag y tu mewn, ac wedi eu gwneud o fetel oedd tua 75 milimetr o drwch.

22. Ar dop y pileri roedd capan pres oedd tua dau fetr o uchder. O gwmpas top y capan roedd rhwyllwaith cain a phomgranadau yn ei haddurno, y cwbl wedi ei wneud o bres. Roedd y ddau biler yn union yr un fath.

23. Roedd naw deg chwech o bomgranadau ar yr ochrau, a chyfanswm o gant o gwmpas y rhwyllwaith ar y top.

24. Cymerodd capten y gwarchodlu brenhinol rai carcharorion hefyd. Cymerodd Seraia (y prif-offeiriad), Seffaneia (yr offeiriad cynorthwyol), a tri porthor y deml.

25. Wedyn o'r ddinas cymerodd swyddog y llys oedd yn gyfrifol am y milwyr, saith o gynghorwyr y brenin oedd wedi cael eu darganfod yn cuddio yn y ddinas, ac un o'r swyddogion oedd yn drafftio pobl i ymladd yn y fyddin, a chwe deg o'i ddynion gafodd eu darganfod yn y ddinas.

26. A dyma Nebwsaradan, capten y gwarchodwyr, yn mynd â nhw at frenin Babilon i Ribla,

27. a dyma'r brenin yn eu curo nhw a'u dienyddio nhw yno. Felly roedd pobl Jwda wedi cael eu caethgludo o'u tir.

28. Dyma nifer y bobl gafodd eu caethgludo gan Nebwchadnesar: Yn ei seithfed flwyddyn fel brenin, 3,023 o bobl Jwda.

29. Ym mlwyddyn un deg wyth o'i deyrnasiad, 832 o bobl.

30. Yna ym mlwyddyn dau ddeg tri o'i deyrnasiad, cymerodd Nebwsaradan, capten y gwarchodlu brenhinol, 745 o Iddewon yn gaethion. Cafodd 4,600 o bobl eu caethgludo i gyd.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 52