Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 51:9-22 beibl.net 2015 (BNET)

9. ‘Bydden ni wedi ceisio helpu Babilon,ond doedd dim modd ei helpu.Gadewch i ni fynd adre i'n gwledydd ein hunain.Mae'r farn sy'n dod arni'n anferthol!Mae fel pentwr enfawr sy'n ymestyn i'r entrychion,ac yn codi i'r cymylau!’”

10. “Mae'r ARGLWYDD wedi achub ein cam ni.Dewch! Gadewch i ni fynd i ddweud wrth Seionbeth mae'r ARGLWYDD ein Duw wedi ei wneud.”

11. “Rhowch fin ar y saethau!Llanwch eich cewyll!”(Mae'r ARGLWYDD yn gwneud i frenhinoedd Media godi yn erbyn Babilon. Mae e'n bwriadu dinistrio Babilon. Dyna sut mae'r ARGLWYDD yn mynd i ddial arnyn nhw. Mae'n mynd i ddial arnyn nhw am beth wnaethon nhw i'w deml e.)

12. “Rhowch yr arwydd i ymosodar waliau Babilon!Dewch â mwy o filwyr!Gosodwch wylwyr o'i chwmpas!Paratowch grwpiau i ymosod arni!”Mae'r ARGLWYDD yn mynd i wneudbeth mae wedi ei gynllunio yn erbyn pobl Babilon.

13. “Ti'n byw yng nghanol yr afonydd a'r camlesi.Rwyt wedi casglu cymaint o drysorau.Ond mae dy ddiwedd wedi dod;mae edau dy fywyd ar fin cael ei dorri!”

14. Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus wedi addo ar lw,“Dw i'n mynd i lenwi'r wlad â milwyr y gelyn.Byddan nhw fel haid o locustiaid ym mhobman.Byddan nhw'n gweiddi'n llawenam eu bod wedi ennill y frwydr.”

15. Yr ARGLWYDD ddefnyddiodd ei rym i greu y ddaear.Fe ydy'r un osododd y byd yn ei le trwy ei ddoethineb,a lledu'r awyr trwy ei ddeall.

16. Mae sŵn ei lais yn gwneud i'r awyr daranu.Mae'n gwneud i gymylau ddod i'r golwg ar y gorwel.Mae'n gwneud i fellt fflachio yng nghanol y glaw.Mae'n dod â'r gwynt allan o'i stordai i chwythu.

17. Mae pobl mor ddwl! Dŷn nhw'n gwybod dim byd!Bydd yr eilunod yn codi cywilydd ar y rhai a'i gwnaeth nhw.Duwiau ffals ydy'r delwau;does dim bywyd ynddyn nhw.

18. Dŷn nhw'n dda i ddim! Pethau i wneud sbort ohonyn nhw!Mae'r amser yn dod pan gân nhw eu cosbi a'u dinistrio.

19. Dydy Duw Jacob ddim byd tebyg iddyn nhw.Fe ydy'r un wnaeth greu pob peth,ac mae pobl Israel yn bobl sbesial iddo.Yr ARGLWYDD holl-bwerus ydy ei enw!

20. “Ti ydy fy mhastwn rhyfel i;yr arf dw i'n ei ddefnyddio yn y frwydr.Dw i wedi dryllio gwledydd gyda ti,a dinistrio teyrnasoedd gyda ti.

21. Dw i wedi taro ceffylau a'u marchogion gyda ti;cerbydau rhyfel a'r milwyr sy'n eu gyrru.

22. Dw i wedi taro dynion a merched;dynion hŷn, bechgyn a merched ifanc.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 51