Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 51:38-46 beibl.net 2015 (BNET)

38. Byddan nhw'n rhuo fel llewod gyda'i gilydd,ac yn chwyrnu fel rhai bach eisiau bwyd.

39. Wrth awchu am fwyd bydda i'n rhoi gwledd o'u blaenau,ac yn eu meddwi nes byddan nhw'n chwil gaib.Byddan nhw'n llewygu, ac yn syrthio i gysgu,a fyddan nhw byth yn deffro eto,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

40. “Bydda i'n eu harwain nhw fel ŵyn i'r lladd-dy,neu hyrddod a bychod geifr sydd i gael eu haberthu.”

41. “Meddyliwch! Bydd Babilon yn cael ei dal!Bydd y ddinas mae'r byd yn ei chanmolyn cael ei chymryd!Bydd beth fydd yn digwydd i Babilonyn dychryn y gwledydd i gyd!

42. Bydd y môr yn ysgubo drosti.Bydd tonnau gwyllt yn ei gorchuddio hi.

43. Bydd beth fydd yn digwydd i'w threfi yn creu dychryn.Bydd yn troi'n dir sych anial –tir ble does neb yn bywac heb bobl yn pasio trwyddo.

44. Dw i'n mynd i gosbi'r duw Bel yn Babilon.Bydda i'n gwneud iddo chwydu beth mae wedi ei lyncu.Fydd y gwledydd ddim yn llifo ato ddim mwy.Bydd waliau Babilon yn syrthio!

45. Dewch allan ohoni, fy mhobl!Rhedwch am eich bywydau, bob un ohonoch chi!A dianc oddi wrth lid ffyrnig yr ARGLWYDD!

46. Peidiwch torri'ch calon na bod ag ofnpan glywch y si'n mynd ar led drwy'r wlad.Bydd un stori'n mynd o gwmpas un flwyddyn,ac un arall y flwyddyn wedyn.Bydd trais ofnadwy yn y wlad,wrth i lywodraethwyr ymladd yn erbyn ei gilydd.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 51