Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 51:31-45 beibl.net 2015 (BNET)

31. Bydd negeswyr yn rhedeg, un ar ôl y llall,i ddweud wrth frenin Babilonfod y ddinas gyfan wedi cael ei dal.

32. Mae'r rhydau, lle gallai pobl ddianc, wedi eu cymryd.Mae'r corsydd brwyn, lle gallai pobl guddio, wedi eu llosgi.Mae'r fyddin mewn panig.

33. Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel yn ei ddweud:“Bydd Babilon fel llawr dyrnu pan mae'n cael ei sathru.Mae amser cynhaeaf yn dod yn fuan iawn!”

34. Nebwchadnesar, brenin Babilon, wnaeth fy llarpio,a gyrru fy mhobl i ffwrdd.Llyncodd fi fel anghenfil,a llenwi ei fol gyda'm cyfoeth.Gadawodd fi fel plât gwagwedi ei glirio'n llwyr.

35. “Rhaid i Babilon dalu am y ffordd gwnaeth hi ein treisio ni!”meddai'r bobl sy'n byw yn Seion.“Dial ar bobl Babilonia am dywallt gwaed fy mhobl,”meddai Jerwsalem.

36. Felly, dyma beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Dw i'n mynd i weithredu ar dy ran di.Dw i'n mynd i dalu'n ôl i'r Babiloniaid am beth wnaethon nhw i ti.Dw i'n mynd i wagio ei chyflenwad dŵr hi,a sychu ei ffynhonnau.

37. Bydd Babilon yn bentwr o rwbel,ac yn lle i siacaliaid fyw.Bydd pethau ofnadwy yn digwydd ynoa bydd pobl yn chwibanu mewn rhyfeddod.Fydd neb yn byw yno.

38. Byddan nhw'n rhuo fel llewod gyda'i gilydd,ac yn chwyrnu fel rhai bach eisiau bwyd.

39. Wrth awchu am fwyd bydda i'n rhoi gwledd o'u blaenau,ac yn eu meddwi nes byddan nhw'n chwil gaib.Byddan nhw'n llewygu, ac yn syrthio i gysgu,a fyddan nhw byth yn deffro eto,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

40. “Bydda i'n eu harwain nhw fel ŵyn i'r lladd-dy,neu hyrddod a bychod geifr sydd i gael eu haberthu.”

41. “Meddyliwch! Bydd Babilon yn cael ei dal!Bydd y ddinas mae'r byd yn ei chanmolyn cael ei chymryd!Bydd beth fydd yn digwydd i Babilonyn dychryn y gwledydd i gyd!

42. Bydd y môr yn ysgubo drosti.Bydd tonnau gwyllt yn ei gorchuddio hi.

43. Bydd beth fydd yn digwydd i'w threfi yn creu dychryn.Bydd yn troi'n dir sych anial –tir ble does neb yn bywac heb bobl yn pasio trwyddo.

44. Dw i'n mynd i gosbi'r duw Bel yn Babilon.Bydda i'n gwneud iddo chwydu beth mae wedi ei lyncu.Fydd y gwledydd ddim yn llifo ato ddim mwy.Bydd waliau Babilon yn syrthio!

45. Dewch allan ohoni, fy mhobl!Rhedwch am eich bywydau, bob un ohonoch chi!A dianc oddi wrth lid ffyrnig yr ARGLWYDD!

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 51