Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 51:28-34 beibl.net 2015 (BNET)

28. Paratowch wledydd i ymladd yn ei herbyn hi –brenhinoedd Media, ei llywodraethwyr a'i swyddogion,a'r gwledydd sy'n cael eu rheoli ganddi.”

29. Mae'r ddaear yn crynu ac yn gwingo mewn poen,am fod bwriadau'r ARGLWYDD yn mynd i gael eu cyflawni.Mae'n mynd i ddinistrio gwlad Babilon yn llwyr,a fydd neb yn byw yno.

30. Bydd milwyr Babilon yn stopio ymladd.Byddan nhw'n cuddio yn eu caerau.Fydd ganddyn nhw ddim nerth i gario mlaen;byddan nhw'n wan fel merched.Bydd eu tai yn y ddinas yn cael eu llosgi.Bydd barrau eu giatiau wedi eu torri.

31. Bydd negeswyr yn rhedeg, un ar ôl y llall,i ddweud wrth frenin Babilonfod y ddinas gyfan wedi cael ei dal.

32. Mae'r rhydau, lle gallai pobl ddianc, wedi eu cymryd.Mae'r corsydd brwyn, lle gallai pobl guddio, wedi eu llosgi.Mae'r fyddin mewn panig.

33. Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel yn ei ddweud:“Bydd Babilon fel llawr dyrnu pan mae'n cael ei sathru.Mae amser cynhaeaf yn dod yn fuan iawn!”

34. Nebwchadnesar, brenin Babilon, wnaeth fy llarpio,a gyrru fy mhobl i ffwrdd.Llyncodd fi fel anghenfil,a llenwi ei fol gyda'm cyfoeth.Gadawodd fi fel plât gwagwedi ei glirio'n llwyr.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 51