37. Bydd cleddyf yn taro eu ceffylau a'u cerbydau rhyfel.Bydd yn taro'r milwyr tramor sydd gyda hi,a byddan nhw'n wan fel merched!Bydd cleddyf yn taro ei thrysorau,a bydd y cwbl yn cael ei gymryd i ffwrdd yn ysbail.
38. Bydd sychder yn taro'r wlad,a bydd y cyflenwad dŵr yn dod i ben!Achos mae'r wlad yn llawn o eilun-dduwiaua delwau dychrynllyd sy'n eu gyrru nhw'n wallgof!
39. Felly ysbrydion yr anialwch, bwganod ac estrysfydd yn byw yn Babilon.Fydd pobl yn byw yno byth eto –neb o gwbl ar hyd y cenedlaethau.
40. Bydd yn union yr un fath â Sodom a Gomorraa'r pentrefi o'u cwmpas.Fydd neb yn byw nac yn setlo i lawr yno eto.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
41. “Gwyliwch! Mae byddin yn dod o gyfeiriad y gogledd.Mae gwlad gref a brenhinoedd ym mhen draw'r bydyn paratoi i ryfel.
42. Mae ei milwyr wedi gafael yn y bwa a'r cleddyfmaen nhw'n greulon a fyddan nhw'n dangos dim trugaredd.Mae sŵn eu ceffylau'n carlamu fel sŵn y môr yn rhuo.Mae eu rhengoedd nhw mor ddisgybledig,ac maen nhw'n dod yn eich erbyn chi, bobl Babilon.”
43. Mae brenin Babilon wedi clywed amdanyn nhw.Does dim byd allith e ei wneud.Mae dychryn wedi gafael ynddo,fel gwraig mewn poen wrth gael babi.
44. “Bydda i'n gyrru pobl Babilon o'u tir, fel llew yn dod allan o goedwig wyllt yr Iorddonen ac yn gyrru'r praidd yn y borfa agored ar chwâl. Bydda i'n dewis y meheryn gorau i'w llarpio. Achos pwy sy'n debyg i mi? Pwy sy'n mynd i'm galw i i gyfri? Pa fugail sy'n gallu sefyll yn fy erbyn i?”
45. Dyma gynllun yr ARGLWYDD yn erbyn Babilon. Dyma mae'n bwriadu ei wneud i wlad Babilonia:“Bydd hyd yn oed yr ŵyn bach yn cael eu llusgo i ffwrdd.Bydd eu corlan yn cael ei dinistrio am beth wnaethon nhw.
46. Bydd pobl y ddaear yn crynu wrth glywed fod Babilon wedi ei choncro.Bydd eu sŵn nhw'n gweiddi i'w glywed drwy'r gwledydd i gyd.”