Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 50:31-38 beibl.net 2015 (BNET)

31. “Gwranda! Dw i yn dy erbyn di, ddinas falch,meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus.Mae'r diwrnod pan dw i'n mynd i dy gosbi di wedi dod.

32. Bydd y ddinas falch yn baglu ac yn syrthio,a fydd neb yna i'w chodi ar ei thraed.Dw i'n mynd i roi dy drefi di ar dân,a bydd popeth o dy gwmpas yn cael ei losgi'n ulw.”

33. Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: “Mae pobl Israel a phobl Jwda yn cael eu cam-drin. Mae'r rhai wnaeth eu caethiwo yn dal gafael ynddyn nhw, ac yn gwrthod eu gollwng nhw'n rhydd.

34. Ond mae'r un fydd yn eu rhyddhau nhw yn gryf—yr ARGLWYDD holl-bwerus ydy ei enw e.Bydd e'n gweithredu ar eu rhan nhw,ac yn dod â heddwch i'w gwlad nhw.Ond bydd yn aflonyddu ar y boblsy'n byw yn Babilon.

35. Bydd cleddyf yn taro'r Babiloniaid,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.“Bydd yn taro pawb sydd yn byw yn Babilon.Bydd yn taro ei swyddogion a'i gwŷr doeth!

36. Bydd cleddyf yn taro ei phroffwydi ffals,a bydd hi'n amlwg mai ffyliaid oedden nhw.Bydd cleddyf yn taro ei milwyr,a byddan nhw'n cael eu difa!

37. Bydd cleddyf yn taro eu ceffylau a'u cerbydau rhyfel.Bydd yn taro'r milwyr tramor sydd gyda hi,a byddan nhw'n wan fel merched!Bydd cleddyf yn taro ei thrysorau,a bydd y cwbl yn cael ei gymryd i ffwrdd yn ysbail.

38. Bydd sychder yn taro'r wlad,a bydd y cyflenwad dŵr yn dod i ben!Achos mae'r wlad yn llawn o eilun-dduwiaua delwau dychrynllyd sy'n eu gyrru nhw'n wallgof!

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 50