Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 50:3-13 beibl.net 2015 (BNET)

3. Bydd gwlad yn ymosod arni o gyfeiriad y gogledd.Bydd yn ei dinistrio hi'n llwyr, a fydd neb yn byw yno.Bydd pobl ac anifeiliaid wedi dianc i ffwrdd.’

4. “Bryd hynny,” meddai'r ARGLWYDD,“bydd pobl Israel a phobl Jwda yn dod adre gyda'i gilydd.”Byddan nhw'n crïo wrth gerdded,ac eisiau perthynas iawn gyda'u Duw eto.

5. Byddan nhw'n holi am y ffordd i Seion,ac yna'n troi i'r cyfeiriad hwnnw.Byddan nhw'n ymrwymo i fod yn ffyddlon i'r ARGLWYDD,a fydd yr ymrwymiad hwnnw byth yn cael ei anghofio.

6. “Mae fy mhobl wedi bod fel defaid oedd ar goll.Roedd eu bugeiliaid wedi gadael iddyn nhw grwydro i ffwrdd.Maen nhw wedi bod yn crwydro ar y mynyddoedd –crwydro o gopa un bryn i'r llall;wedi anghofio'r ffordd yn ôl i'r gorlan.

7. Roedd pawb ddaeth ar eu traws yn eu llarpio.Ond wedyn roedd y gelynion hynny'n dweud,‘Does dim bai arnon ni.Maen nhw wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD.Fe oedd eu porfa go iawn nhw –unig obaith eu hynafiaid.’”

8. “Ffowch o Babilon! Ewch allan o wlad y Babiloniaid! Am y cyntaf i adael! – fel y bychod geifr sy'n arwain y praidd.

9. Dw i'n mynd i wneud i nifer o wledydd cryfion o'r gogledd ymosod ar Babilon. Byddan nhw'n trefnu eu hunain yn rhesi i ymosod arni, yn dod o'r gogledd ac yn ei choncro hi. Bydd eu saethau'n taro'r targed bob tro, fel saethau'r milwyr gorau.

10. Bydd gwlad Babilonia yn cael ei hysbeilio.Bydd milwyr y gelyn yn cymryd popeth maen nhw eisiau,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

11. “Bobl Babilon, chi wnaeth ysbeilio gwlad fy mhobl i.Roeddech chi mor hapus, ac yn dathlu.Roeddech chi'n prancio o gwmpas fel lloi mewn cae.Roeddech chi'n gweryru fel meirch.

12. Ond bydd Babilon eich mamwlad yn cael ei chywilyddio'n fawr,a'r wlad lle cawsoch eich geni yn teimlo'r gwarth.I ddweud y gwir, hi fydd y lleiaf pwysig o'r gwledydd i gyd!Bydd hi'n anialwch sych a diffaith.”

13. Am fod yr ARGLWYDD wedi digiofydd neb yn cael byw yno –bydd Babilon yn cael ei dinistrio'n llwyr.Bydd pawb sy'n pasio heibio wedi eu syfrdanu,ac yn chwibanu wrth weld beth ddigwyddodd iddi.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 50