Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 50:23-32 beibl.net 2015 (BNET)

23. Roedd Babilon fel gordd yn malu'r ddaear;ond bellach mae'r ordd wedi ei thorri!Mae Babilon wedi ei gwneudyn olygfa ddychrynllyd i'r gwledydd i gyd.

24. Roeddwn i wedi gosod trap i ti, Babilon,a chest dy ddal cyn i ti sylweddoli beth oedd yn digwydd!Am dy fod wedi ymladd yn fy erbyn i, yr ARGLWYDD,cest dy ddal a'th gymryd yn gaeth.”

25. Mae'r ARGLWYDD wedi agor ei stordy arfau;mae wedi dod ag arfau ei ddigofaint i'r golwg.Mae gan y Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus,waith i'w wneud yng ngwlad y Babiloniaid.

26. “Dewch yn ei herbyn hi o ben draw'r byd!Agorwch ei hysguboriau hi!Trowch hi'n domen o adfeilion! Dinistriwch hi'n llwyr!Peidiwch gadael unrhyw un ar ôl yn fyw!

27. Lladdwch ei milwyr hi i gyd,fel teirw yn cael eu gyrru i'r lladd-dy!Ydy, mae hi ar ben arnyn nhw!Mae'r diwrnod iddyn nhw gael eu cosbi wedi dod!”

28. Gwrandwch ar y ffoaduriaid sy'n dianc o Babilon. Maen nhw ar eu ffordd i Seion, i ddweud sut mae'r ARGLWYDD wedi dial – wedi dial ar Babilon am beth wnaethon nhw i'w deml.

29. “Galwch am fwasaethwyr i ymosod ar Babilon!Galwch ar bawb sy'n trin y bwa saeth i ddod yn ei herbyn hi!Codwch wersyll o gwmpas y ddinas!Does neb i gael dianc!Talwch yn ôl iddi am beth wnaeth hi.Gwnewch iddi hi beth wnaeth hi i eraill.Mae hi wedi ymddwyn yn haerllugyn erbyn yr ARGLWYDD, Un Sanctaidd Israel.

30. Felly, bydd ei bechgyn ifanc yn syrthio'n farw ar ei strydoedd,a'i milwyr i gyd yn cael eu lladd ar y diwrnod hwnnw,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

31. “Gwranda! Dw i yn dy erbyn di, ddinas falch,meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus.Mae'r diwrnod pan dw i'n mynd i dy gosbi di wedi dod.

32. Bydd y ddinas falch yn baglu ac yn syrthio,a fydd neb yna i'w chodi ar ei thraed.Dw i'n mynd i roi dy drefi di ar dân,a bydd popeth o dy gwmpas yn cael ei losgi'n ulw.”

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 50