Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 50:15-25 beibl.net 2015 (BNET)

15. Gwaeddwch wrth ymosod o bob cyfeiriad.Mae'n rhoi arwydd ei bod am ildio.Mae ei thyrau amddiffynnol wedi syrthio,a'i waliau wedi eu bwrw i lawr.Fi, yr ARGLWYDD, sy'n dial arni.Gwna i iddi beth wnaeth hi i eraill!

16. Bydd y rhai sy'n hau hadau yn cael eu cipio o Babilon;a'r rhai sy'n trin y cryman adeg cynhaeaf hefyd.Bydd pawb yn ffoi at eu pobl eu hunain,a dianc i'w gwledydd rhag i'r gelyn eu lladd.”

17. Mae Israel fel praidd wedi ei yrru ar chwâl gan lewod. Brenin Asyria oedd y cyntaf i'w llarpio nhw, a nawr mae Nebwchadnesar, brenin Babilon, wedi cnoi beth oedd ar ôl o'r esgyrn!

18. Felly, dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: “Dw i'n mynd i gosbi brenin Babilon a'i bobl, fel gwnes i gosbi brenin Asyria.

19. Bydda i'n dod â phraidd Israel yn ôl i'w borfa ei hun. Byddan nhw'n pori ar fynydd Carmel ac yn ardal Bashan. Byddan nhw'n cael eu digoni ar fryniau Effraim ac yn ardal Gilead.

20. Bryd hynny,” meddai'r ARGLWYDD,“Fydd Israel yn gwneud dim byd o'i le;fydd dim pechod i'w gael yn Jwda.Dw i'n mynd i faddau i'r rhai wnes i eu cadw'n fyw.”

21. “Ewch i ymosod ar wlad Merathaim!Ymosodwch ar bobl Pecod!Lladdwch nhw a'u dinistrio'n llwyr,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.“Gwnewch bopeth dw i'n ei orchymyn i chi.

22. Mae sŵn rhyfel i'w glywed yn y wlad –Sŵn dinistr ofnadwy!

23. Roedd Babilon fel gordd yn malu'r ddaear;ond bellach mae'r ordd wedi ei thorri!Mae Babilon wedi ei gwneudyn olygfa ddychrynllyd i'r gwledydd i gyd.

24. Roeddwn i wedi gosod trap i ti, Babilon,a chest dy ddal cyn i ti sylweddoli beth oedd yn digwydd!Am dy fod wedi ymladd yn fy erbyn i, yr ARGLWYDD,cest dy ddal a'th gymryd yn gaeth.”

25. Mae'r ARGLWYDD wedi agor ei stordy arfau;mae wedi dod ag arfau ei ddigofaint i'r golwg.Mae gan y Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus,waith i'w wneud yng ngwlad y Babiloniaid.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 50