Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 5:18-31 beibl.net 2015 (BNET)

18. “Ond hyd yn oed bryd hynny fydda i ddim yn eich dinistrio chi'n llwyr,” meddai'r ARGLWYDD.

19. “A Jeremeia, pan fydd y bobl yn gofyn, ‘Pam mae'r ARGLWYDD ein Duw wedi gwneud y pethau yma i ni?’, byddi di'n ateb, ‘Am eich bod wedi ei wrthod e, a gwasanaethu duwiau estron yn eich gwlad eich hunain, byddwch chi'n gwasanaethu pobl estron mewn gwlad ddieithr.’”

20. “Dwedwch fel hyn wrth ddisgynyddion Jacob,a cyhoeddwch y peth drwy Jwda:

21. ‘Gwrandwch, chi bobl ddwl sy'n deall dim –chi sydd â llygaid, ond yn gweld dim,chi sydd â chlustiau, ond yn clywed dim:

22. Oes gynnoch chi ddim parch ata i?’ meddai'r ARGLWYDD.‘Ddylech chi ddim gwingo mewn ofn o'm blaen i?Fi roddodd dywod ar y traethfel ffin nad ydy'r môr i'w chroesi.Er bod y tonnau'n hyrddio, fyddan nhw ddim yn llwyddo;er eu bod nhw'n rhuo, ân nhw ddim heibio.

23. Ond mae'r bobl yma mor benstiff, ac yn tynnu'n groes;maen nhw wedi troi cefn a mynd eu ffordd eu hunain.

24. Dŷn nhw ddim wir o ddifrif yn dweud,“Gadewch i ni barchu'r ARGLWYDD ein Duw.Mae'n rhoi'r glaw i ni yn y gwanwyn a'r hydref;mae'n rhoi'r cynhaeaf i ni ar yr adeg iawn.”

25. Mae'ch drygioni wedi rhoi stop ar y pethau yma!Mae'ch pechodau chi wedi cadw'r glaw i ffwrdd.’

26. ‘Mae yna bobl ddrwg iawn ymhlith fy mhobl i.Maen nhw fel helwyr adar yn cuddio ac yn gwylio,ar ôl gosod trapiau i ddal pobl.

27. Fel caets sy'n llawn o adar wedi eu dal,mae eu tai yn llawn o enillion eu twyll.Dyna pam maen nhw mor gyfoethog a phwerus,

28. wedi pesgi ac yn edrych mor dda.Does dim pen draw i'w drygioni nhw!Dŷn nhw ddim yn rhoi cyfiawnder i'r amddifad,nac yn amddiffyn hawliau pobl dlawd.

29. Ddylwn i ddim eu cosbi nhw am hyn?’ meddai'r ARGLWYDD.‘Ddylwn i ddim dial ar wlad fel yma?’

30. Mae beth sy'n digwydd yn y wlad yma'n erchyll, mae'n warthus!

31. Mae'r proffwydi'n dweud celwydd,a'r offeiriaid yn rheoli fel maen nhw eisiau.Ac mae fy mhobl i wrth eu boddau gyda'r sefyllfa!Ond beth wnewch chi pan ddaw'r cwbl i ben?”

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 5