Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 5:12-18 beibl.net 2015 (BNET)

12. “Ydyn, maen nhw wedi gwrthod credu'r ARGLWYDDa dweud pethau fel, ‘Dydy e'n neb!Does dim dinistr i ddod go iawn.Welwn ni ddim rhyfel na newyn.

13. Mae'r proffwydi'n malu awyr!Dydy Duw ddim wedi rhoi neges iddyn nhw!Gadewch i'r hyn maen nhw'n ddweudddigwydd iddyn nhw eu hunain!’”

14. Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Duw holl-bwerus, yn ei ddweud:“Am eu bod nhw'n dweud hyn,dw i'n mynd i roi neges i ti fydd fel fflam dânyn eu llosgi nhw fel petaen nhw'n goed tân.”

15. “Gwranda Israel,” meddai'r ARGLWYDD“Dw i'n mynd i ddod â gwlad o bell i ymosod arnat ti –gwlad sydd wedi bod o gwmpas ers talwm.Dwyt ti ddim yn siarad ei hiaith hi,nac yn deall beth mae'r bobl yn ei ddweud.

16. Mae ei milwyr i gyd yn gryfion,a'i chawell saethau fel bedd agored.

17. Byddan nhw'n bwyta dy gnydau a dy fwyd.Byddan nhw'n lladd dy feibion a dy ferched.Byddan nhw'n bwyta dy ddefaid a dy wartheg.Byddan nhw'n difetha dy goed gwinwydd a dy goed ffigys.Byddan nhw'n ymosod, ac yn dinistrio dy gaerau amddiffynnol –a thithau'n meddwl eu bod nhw mor saff!

18. “Ond hyd yn oed bryd hynny fydda i ddim yn eich dinistrio chi'n llwyr,” meddai'r ARGLWYDD.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 5