Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 5:1-19 beibl.net 2015 (BNET)

1. “Ewch yn ôl ac ymlaen drwy strydoedd Jerwsalem.Edrychwch yn fanwl ym mhobman;chwiliwch yn ei sgwariau cyhoeddus.Os allwch chi ddod o hyd i un personsy'n gwneud beth sy'n iawn ac yn onest,gwna i faddau i'r ddinas gyfan!”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

2. Mae'r bobl yma'n tyngu llw,“Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw …”Ond y gwir ydy fod eu geiriau'n gelwydd!

3. O ARGLWYDD, onid gonestrwydd wyt ti eisiau?Ti'n ei cosbi nhw, a dŷn nhw'n cymryd dim sylw.Bron i ti eu dinistrio, ond maen nhw'n gwrthod cael eu cywiro.Maen nhw mor ystyfnig, ac yn gwrthod newid eu ffyrdd.

4. Wedyn dyma fi'n meddwl, “Pobl dlawd gyffredin ydy'r rhain.Maen nhw wedi ymddwyn yn ddwl;dŷn nhw ddim yn gwybod beth mae'r ARGLWYDD eisiau,a beth mae Duw yn ei ddisgwyl ganddyn nhw.

5. Gwna i fynd i siarad gyda'r arweinwyr.Byddan nhw'n gwybod beth mae'r ARGLWYDD eisiau,a beth mae Duw yn ei ddisgwyl ganddyn nhw.”Ond roedden nhw hefyd fel ychen wedi torri'r iauyn gwrthod gadael i Dduw eu harwain nhw.

6. Felly, bydd y gelyn yn dod i ymosod fel llew o'r goedwig.Bydd yn neidio arnyn nhw fel blaidd o'r anialwch.Bydd fel llewpard yn stelcian tu allan i'w trefi,a bydd unrhyw un sy'n mentro allan yn cael ei rwygo'n ddarnau!Maen nhw wedi gwrthryfelaac wedi troi cefn ar Dduw mor aml.

7. “Jerwsalem – sut alla i faddau i ti am hyn?Mae dy bobl wedi troi cefn arna i.Maen nhw wedi cymryd llw i ‛dduwiau‛sydd ddim yn bod!Er fy mod i wedi rhoi popeth oedd ei angen iddyn nhwdyma nhw'n ymddwyn fel gwraig sy'n anffyddlon i'w gŵr.Maen nhw'n heidio i dai puteiniaid,

8. fel meirch cryfion yn awchu am gaseg;pob un yn gweryru am wraig ei gymydog.

9. Ddylwn i ddim eu cosbi nhw am hyn?” meddai'r ARGLWYDD.“Ddylwn i ddim dial ar wlad fel yma?”

10. “Ewch i lawr y rhesi o goed gwinwydd, a difetha,ond peidiwch â'i dinistrio nhw'n llwyr.Torrwch y canghennau sy'n blaguro i ffwrdd,achos dŷn nhw ddim yn perthyn i'r ARGLWYDD.

11. Mae pobl Israel a Jwda wedi bod yn anffyddlon i mi.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

12. “Ydyn, maen nhw wedi gwrthod credu'r ARGLWYDDa dweud pethau fel, ‘Dydy e'n neb!Does dim dinistr i ddod go iawn.Welwn ni ddim rhyfel na newyn.

13. Mae'r proffwydi'n malu awyr!Dydy Duw ddim wedi rhoi neges iddyn nhw!Gadewch i'r hyn maen nhw'n ddweudddigwydd iddyn nhw eu hunain!’”

14. Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Duw holl-bwerus, yn ei ddweud:“Am eu bod nhw'n dweud hyn,dw i'n mynd i roi neges i ti fydd fel fflam dânyn eu llosgi nhw fel petaen nhw'n goed tân.”

15. “Gwranda Israel,” meddai'r ARGLWYDD“Dw i'n mynd i ddod â gwlad o bell i ymosod arnat ti –gwlad sydd wedi bod o gwmpas ers talwm.Dwyt ti ddim yn siarad ei hiaith hi,nac yn deall beth mae'r bobl yn ei ddweud.

16. Mae ei milwyr i gyd yn gryfion,a'i chawell saethau fel bedd agored.

17. Byddan nhw'n bwyta dy gnydau a dy fwyd.Byddan nhw'n lladd dy feibion a dy ferched.Byddan nhw'n bwyta dy ddefaid a dy wartheg.Byddan nhw'n difetha dy goed gwinwydd a dy goed ffigys.Byddan nhw'n ymosod, ac yn dinistrio dy gaerau amddiffynnol –a thithau'n meddwl eu bod nhw mor saff!

18. “Ond hyd yn oed bryd hynny fydda i ddim yn eich dinistrio chi'n llwyr,” meddai'r ARGLWYDD.

19. “A Jeremeia, pan fydd y bobl yn gofyn, ‘Pam mae'r ARGLWYDD ein Duw wedi gwneud y pethau yma i ni?’, byddi di'n ateb, ‘Am eich bod wedi ei wrthod e, a gwasanaethu duwiau estron yn eich gwlad eich hunain, byddwch chi'n gwasanaethu pobl estron mewn gwlad ddieithr.’”

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 5