Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 49:5-17 beibl.net 2015 (BNET)

5. Wel, dw i'n mynd i dy ddychryn di o bob cyfeiriad,”meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus.“Byddi'n cael dy yrru ar chwâl,a fydd neb yna i helpu'r ffoaduriaid.

6. “Ond wedyn bydda i'n rhoi'r cwbl gollodd Ammon yn ôl iddi.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

7. Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud am Edom:“Oes rhywun doeth ar ôl yn Teman?Oes neb call ar ôl i roi cyngor?Ydy eu doethineb nhw wedi diflannu?

8. Ffowch! Trowch yn ôl!Ewch i guddio'n bell, bobl Dedan!Dw i'n dod â dinistr ar ddisgynyddion Esaumae'n amser i mi eu cosbi.

9. Petai casglwyr grawnwin yn dod atat ti,oni fydden nhw'n gadael rhywbeth i'w loffa?Petai lladron yn dod yn y nos,bydden nhw ond yn dwyn beth oedden nhw eisiau!

10. Ond dw i'n mynd i gymryd popeth oddi ar bobl Esau.Bydda i'n dod o hyd iddyn nhw;fyddan nhw ddim yn gallu cuddio.Bydd eu plant, eu perthnasau, a'u cymdogion i gydyn cael eu dinistrio. Fydd neb ar ôl!

11. Gadael dy blant amddifad gyda mi,gwna i ofalu amdanyn nhw.Bydd dy weddwon hefyd yn gallu dibynnu arna i.”

12. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Os oes rhaid i bobl ddiniwed ddiodde, wyt ti'n meddwl y byddi di'n dianc? Na! Bydd rhaid i tithau yfed o gwpan barn.

13. Dw i wedi addo ar lw,” meddai'r ARGLWYDD. “Bydd Bosra yn cael ei throi'n adfeilion. Bydd yn destun sbort. Bydd yn cael ei dinistrio'n llwyr, a'i gwneud yn enghraifft o bobl wedi eu melltithio. Bydd eu trefi yn cael eu gadael yn adfeilion am byth.”

14. “Ces i neges gan yr ARGLWYDD,pan gafodd negesydd ei anfon i'r gwledydd, yn dweud,‘Dowch at eich gilydd i ymosod arni hi.Gadewch i ni fynd i ryfel yn ei herbyn!’”

15. “Dw i'n mynd i dy wneud di'n wlad fach wan;bydd pawb yn cael hwyl ar dy ben.

16. Mae dy allu i ddychryn pobla dy falchder wedi dy dwyllo di.Ti'n byw yn saff yng nghysgod y graig,yn byw ar ben y mynydd –ond hyd yn oed petaet ti'n gwneud dy nyth mor uchel â'r eryr,bydda i'n dy dynnu di i lawr.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

17. “Bydd Edom yn cael ei dinistrio'n llwyr. Bydd pawb sy'n pasio heibio wedi dychryn am eu bywydau ac yn chwibanu mewn rhyfeddod wrth weld y dinistr.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 49