Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 49:24-36 beibl.net 2015 (BNET)

24. Mae pobl Damascus wedi colli pob hyder,ac wedi ffoi mewn panig.Mae poen a phryder wedi gafael ynddyn nhw,fel gwraig ar fin cael babi.

25. Bydd y ddinas enwog yn wag cyn bo hir –y ddinas oedd unwaith yn llawn bwrlwm a hwyl!

26. Bydd ei bechgyn ifanc yn syrthio'n farw ar ei strydoedd,a'i milwyr i gyd yn cael eu lladd ar y diwrnod hwnnw,”—yr ARGLWYDD holl-bwerus sy'n dweud hyn.

27. “Bydda i'n llosgi waliau Damascus,a bydd y tân yn dinistrio caerau amddiffynnol Ben-hadad.”

28. Neges am Cedar ac ardaloedd Chatsor, gafodd eu taro gan Nebwchadnesar, brenin Babilon.Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Fyddin Babilon, codwch ac ymosod ar Cedar!Dinistriwch bobl y dwyrain.

29. Cymerwch eu pebyll a'u preiddiau,eu llenni a'u hoffer, a'u camelod i gario'r cwbl i ffwrdd.Bydd pobl yn gweiddi: ‘Does ond dychryn ym mhobman!’

30. Bobl Chatsor, rhedwch i ffwrdd;ewch i guddio mewn ogofâu!Mae Nebwchadnesar, brenin Babilon,yn bwriadu ymosod arnoch chi.Mae e'n bwriadu eich dinistrio chi!

31. Codwch, ac ymosodar wlad sy'n meddwl ei bod mor saff!”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.Does dim giatiau dwbl gyda barrau i'w hamddiffyn,a does neb wrth ymyl i'w helpu.

32. Bydd y milwyr yn cymryd ei chameloda'i gyrroedd o wartheg yn ysbail.Bydda i'n gyrru ar chwâlbawb sy'n byw ar ymylon yr anialwch.Daw dinistr arnyn nhw o bob cyfeiriad,—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

33. Bydd Chatsor wedi ei throi'n adfeilion am byth.Bydd yn lle i siacaliaid fyw –fydd neb yn byw nac yn setlo i lawr yno.

34. Y neges roddodd yr ARGLWYDD i Jeremeia am wlad Elam, yn fuan ar ôl i Sedeceia gael ei wneud yn frenin ar Jwda.

35. Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud:“Dw i'n mynd i ladd bwasaethwyr Elam,sef asgwrn cefn eu grym milwrol.

36. Dw i'n mynd i ddod â gelynionyn erbyn pobl Elam o bob cyfeiriad,a byddan nhw'n cael eu gyrru ar chwâl.Bydd ffoaduriaid o Elam yn dianc i bobman.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 49