Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 49:21-29 beibl.net 2015 (BNET)

21. Bydd pobl y ddaear yn crynu wrth glywed am eu cwymp.Bydd eu sŵn nhw'n gweiddi i'w glywed wrth y Môr Coch.

22. Edrychwch! Bydd y gelyn fel eryr yn codi i'r awyr,yn lledu ei adenydd ac yn plymio i lawr ar Bosra.Ar y diwrnod hwnnw bydd milwyr Edom wedi dychryn,fel gwraig ar fin cael babi!”

23. Neges am Damascus:“Mae pobl Chamath ac Arpad wedi drysu.Maen nhw wedi clywed newyddion drwg.Maen nhw'n poeni ac wedi cynhyrfufel môr stormus sy'n methu bod yn llonydd.

24. Mae pobl Damascus wedi colli pob hyder,ac wedi ffoi mewn panig.Mae poen a phryder wedi gafael ynddyn nhw,fel gwraig ar fin cael babi.

25. Bydd y ddinas enwog yn wag cyn bo hir –y ddinas oedd unwaith yn llawn bwrlwm a hwyl!

26. Bydd ei bechgyn ifanc yn syrthio'n farw ar ei strydoedd,a'i milwyr i gyd yn cael eu lladd ar y diwrnod hwnnw,”—yr ARGLWYDD holl-bwerus sy'n dweud hyn.

27. “Bydda i'n llosgi waliau Damascus,a bydd y tân yn dinistrio caerau amddiffynnol Ben-hadad.”

28. Neges am Cedar ac ardaloedd Chatsor, gafodd eu taro gan Nebwchadnesar, brenin Babilon.Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Fyddin Babilon, codwch ac ymosod ar Cedar!Dinistriwch bobl y dwyrain.

29. Cymerwch eu pebyll a'u preiddiau,eu llenni a'u hoffer, a'u camelod i gario'r cwbl i ffwrdd.Bydd pobl yn gweiddi: ‘Does ond dychryn ym mhobman!’

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 49